Archif Newyddion
Yr Athro Dewi Z. Phillips
Cafodd ei eni yn Nhreforys, Abertawe, ac yn y Brifysgol yno derbyniodd ei addysg dros gyfnod o 40 mlynedd. Bu’n athro athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yn dal Cadair Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Claremont, California. Roedd yn awdur toreithiog ac wedi cyhoeddi Athronyddu ar Grefydd, Dramâu Gwenlyn Parry (1982), R S Thomas: Poet of the Hidden God (1968), a Writers of Wales: J R Jones (1995). Meysydd ymchwil yr Athro oedd crefydd, moeseg, athroniaeth a llenyddiaeth, a Wittgenstein.
Rhwng 1952 a 1958 bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, cyn mynd i Brifysgol Rhydychen. Rhwng 1959 a 1961 bu’n weinidog yn Eglwys yr Annibynwyr Fabian Way yn Abertawe. Yn 1961 bu’n darlithio yng Ngholeg y Frenhines, Dundee, cyn symud i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
O 1965 ymlaen bu yn Adran Athroniaeth Coleg y Brifysgol, Abertawe, ac o 1992 ymlaen bu’n athro ym Mhrifysgol Claremont, California. Roedd yn byw yn Y Sgeti, Abertawe, ac mae’n gadael gwraig, Monica, a thri o blant, Steffan, Rhys, ac Aled.
Dywedodd Is–Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, ei fod yn "academydd rhagorol…uchel ei barch ac yn ddeallus iawn. Bydd bwlch mawr ar ei ôl ymhlith cyfeillion a chydweithwyr drwy’r byd."




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.