Archif Newyddion

Yr Athro Dewi Z. Phillips

Cafodd ei eni yn Nhreforys, Abertawe, ac yn y Brifysgol yno derbyniodd ei addysg dros gyfnod o 40 mlynedd.  Bu’n athro athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yn dal Cadair Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Claremont, California.  Roedd yn awdur toreithiog ac wedi cyhoeddi Athronyddu ar Grefydd, Dramâu Gwenlyn Parry (1982), R S Thomas: Poet of the Hidden God (1968), a Writers of Wales: J R Jones (1995).  Meysydd ymchwil yr Athro oedd crefydd, moeseg, athroniaeth a llenyddiaeth, a Wittgenstein. 

Rhwng 1952 a 1958 bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, cyn mynd i Brifysgol Rhydychen.  Rhwng 1959 a 1961 bu’n weinidog yn Eglwys yr Annibynwyr Fabian Way yn Abertawe.  Yn 1961 bu’n darlithio yng Ngholeg y Frenhines, Dundee, cyn symud i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

 O 1965 ymlaen bu yn Adran Athroniaeth Coleg y Brifysgol, Abertawe, ac o 1992 ymlaen bu’n athro ym Mhrifysgol Claremont, California.  Roedd yn byw yn Y Sgeti, Abertawe, ac mae’n gadael gwraig, Monica, a thri o blant, Steffan, Rhys, ac Aled.

Dywedodd Is–Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, ei fod yn "academydd rhagorol…uchel ei barch ac yn ddeallus iawn. Bydd bwlch mawr ar ei ôl ymhlith cyfeillion a chydweithwyr drwy’r byd."