Archif Newyddion
Y traddodiad barddol yn parhau:
croesawu Bardd Cenedlaethol newydd i Gymru

Cyhoeddwyd yr wythnos hon mai’r Athro Gwyn Thomas fydd Bardd Cenedlaethol Cymru am y flwyddyn nesaf. Bydd Gwyn Thomas yn dilyn ôl troed Gwyneth Lewis, sydd newydd orffen ei chyfnod fel Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru.
Yn llenor ac yn fardd uchel ei barch, mae’r Athro Emeritws Gwyn Thomas yn gyn–Athro Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor. Fe’i ganed yn 1936 yn Nhanygrisiau ac fe’i magwyd ym Mlaenau Ffestiniog. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen.
Mae wedi cyhoeddi 16 cyfrol o farddoniaeth – cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Chwerwder yn y Ffynhonnau yn 1962 a’r ddiweddaraf Apocalups Yfory yn 2005. Yn ogystal cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth lenyddol, addasiadau a chyfieithiadau, gan gynnwys astudiaeth o Ellis Wynne, Y Bardd Cwsg a’i Gefndir a’r clasur Y Traddodiad Barddol. Lluniodd fersiwn i blant o Bedair Cainc y Mabinogi, chwedl Culhwch ac Olwen, a Chwedl Taliesin, a lluniodd gyfieithiadau Saesneg o’r rhain ar y cyd â Kevin Crossley-Holland. Yn ddiweddar cyhoeddodd gyfrol, yn Gymraeg a Saesneg, gyda lluniau gan Margaret Jones ar Y Brenin Arthur.
Mae hefyd yn gefnogwr brwd o’r traddodiad ffilm yng Nghymru, ac yn un o arloeswyr llunyddiaeth – sef cyfuniad o ffilm a barddoniaeth; un o’r cerddi cynharaf un ar gyfer y teledu oedd Cadwynau yn y Meddwl, ei gerdd yntau am Martin Luther King. Roedd yn un o’r beirdd a ymddangosodd yn y ffilm Dal: Yma / Nawr yn 2001 gyda’r sêr rhyngwladol Matthew Rhys a Ioan Gruffudd, ac addasodd chwedlau’r Mabinogi ar gyfer ffilm animeiddiedig S4C yn 2002. Fe gyfieithodd i’r Gymraeg addasiadau animeiddiedig o gyfres o ddramâu Shakespeare ar gyfer S4C, ac ef a luniodd sgript O’r Ddaear Hen, ffilm arswyd a gyfarwyddwyd i’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg gan Wil Aaron.
Ei obaith yn rhinwedd ei swydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru yw: “Ceisio tynnu sylw at feirdd Cymru a’u cerddi, a cheisio dangos fod barddoniaeth yn ffordd unigryw o ymateb i’r byd yr ydym ni’n byw ynddo.”
Yn ystod ei dymor bydd Gwyn Thomas yn dathlu ei ben-blwydd yn 70. Bydd yn cyflwyno’i waith yn gyhoeddus ac yn ysgrifennu cerddi yn ymateb i ddigwyddiadau o bwys. Bydd yn sgwrsio gyda Gwyneth Lewis yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy ar nos Iau 27 Gorffennaf, a bydd yn annerch aelodau’r Academi yn y Cinio Blynyddol ym Mhorthmeirion ar 17 Medi gyda’r cyfarwyddwr ffilm byd-enwog Peter Greenaway. Ym mis Tachwedd 2006 bydd Gwyn Thomas yn cymryd rhan mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor ar farddoniaeth yn y ganrif newydd.
Cyn diwedd ei dymor bydd Barddas yn cyhoeddi ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, Teyrnas y Tywyllwch, cyfres o gerddi sydd yn sôn am hil-laddiad yn y gorffennol ac erledigaeth yr Iddewon yn yr ugeinfed ganrif. Yn ogystal, bydd Gwasg Gwynedd yn cyhoeddi ei hunangofiant.
Yn dilyn ymgyrchu diwyd gan yr Academi – yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru - sefydlwyd y swydd ym mis Mai 2005 gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae sefydlu’r swydd hollbwysig hon wedi bod yn nod gan yr Academi ers tro byd, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor y Celfyddydau am y gefnogaeth. Roedd tymor Gwyneth Lewis yn un llwyddiannus iawn a bu’n gymorth i godi statws barddoniaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn llongyfarch Gwyn Thomas yn wresog ar ei apwyntiad ac yn edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall.”
ARGLWYDDES
“Heddiw,” meddai hi, yr athrawes,
“Rydym ni’n mynd i ddweud stori Macbeth -
Milwr - a’i wraig o, yr Arglwyddes.”
Ac aeth hi ati i sôn am wrachod
A feddai ar wybodaeth dywyll
Ac a welai yn niwl du y dyfodol
Waed a dioddefaint a lladd,
A brenhiniaeth yn cael ei chnoi gan ddrygioni.
Soniodd amdani hi, yr Arglwyddes hardd,
Â’i dwylo yn waed i gyd,
A hen ur yn dyllau cyllyll.
Ac meddai’r athrawes,
“Arglwyddes hardd oedd hon,
Ond yr oedd hi yn greulon.”
Wrth ddod yn ôl o fyd pell y stori
At amser mynd allan i chwarae
Dyma un hogyn bach yn oedi
A dweud, o’r naill du, wrth ei athrawes,
“Yr Arglwyddes,” meddai, “hon’no
Oedd yn hardd ond yn greulon –
Fel yna y ma’ mam.”
Gwyn Thomas




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.