Archif Newyddion
Cwmni Glass Hammer – cynllunwyr Llyfr y Flwyddyn - yn bwrw’r hoelen ar ei phen yn Ddylunydd y Flwyddyn 2006

Cwmni Glass Hammer gipiodd gwobr Dylunydd y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Dylunio Dwyieithog 2006 Bwrdd yr iaith Gymraeg ar nos Fawrth 13 Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
Enillodd y cwmni, a sefydlwyd yng Nghaerdydd ond 9 mis yn ol, prif wobr y noson am eu gwaith dylunio i‘r Academi Gymreig ar gyfer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2006.
Dyma’r chweched tro i’r Bwrdd gynnal cystadleuaeth Gwobrau Dylunio Dwyieithog sy’n tyfu yn flynyddol o ran statws ag apêl. Bwriad y gwobrau yw hyrwyddo a chodi proffil gwaith dylunio dwyieithog a chydnabod y goreuon yn y maes arbenigol hwn.
Dywedodd Nia Parry, cyflwynydd y noson ag aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, “Mae heno yn achlysur arbennig i ni gydnabod, gwobrwyo a dathlu holl waith dylunio dwyieithog gwych y flwyddyn ddiwethaf. Mae tua mil o gwmnïau wedi cystadlu eleni. Mae hyn yn profi fod yna alw mawr a dealltwriaeth glir o effaith cadarnhaol y gall gwaith dylunio dwyieithog da ei gael ar ymgyrch, hysbyseb neu gynnyrch.”
Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, “Mae’r Gwobrau dylunio Dwyieithog yn helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy ac atyniadol tra hefyd yn prif ffrydio ei defnydd a’i pherthnasedd i fywyd bob dydd. Wrth dynnu sylw at y nifer gynyddol o waith dylunio dwyieithog gallwn danlinellu potensial ei effaith. Gall fod yn arf unigryw i greu argraff a helpu i wahaniaethu un cynnyrch o’r gweddill.”
Roedd beirniaid y gystadleuaeth eleni wedi eu plesio’n arw gan safon uchel y gwaith a ddaeth i law eleni.
Dywedodd Angela Gidden, dylunydd a beirniad, “Mae safon y gwaith a welsom eleni yn uchel iawn ym mhob categori. Gall unrhyw un weld o’r gwaith sy wedi cyrraedd y rhestrau byrion bod dwyieithrwydd ddim yn golygu fod angen cyfaddawdu safon y dylunio. Mewn gwirionedd, mae dylunwyr da yn aml yn defnyddio dwyieithrwydd i ychwanegu dimensiwn artistig a dyfnder i’w gwaith.”
Dywedodd Alun Pugh, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg, “ Hoffwn longyfarch bob cwmni a sefydliad sydd yn rhan o’r gwobrau ac rwy’n falch gweld gwaith o’r sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol sy’n dangos dealltwriaeth o werth gwaith dylunio a brandio dwyieithog da. Mae hwn yn gam arall tuag at sicrhau fod yr iaith yn chwarae rhan ym mhob agwedd o fywyd bob dydd pobl ac yn allweddol I ni gyrraedd ein nod o greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.”

Enillwyr pob categori:
Arwyddion - CRAFT a FBA
Paneli Arddangos - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda’u dylunwyr mewnol
Pecynnu Bwyd a Diod - Cwmni Caws Caerfyrddin a FBA
Hysbysebu - Yr Academi Gymreig a Glass Hammer
Hyrwyddo i’r Cwsmer - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Synergy Creative Design & Marketing Ltd
Hyrwyddo Corfforaethol - S4C a Departures
Brand Cymreig - Partneriaid Blaenafon a 6721
Cyfryngau Newydd - Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Elfen
Amgylcheddol - Canolfan ECO Gorllewin Cymru a Zodshop
Categori Gwaed Newydd - Hoffi
Llyfr y Flwyddyn: Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddwy gyfrol orau yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd Rhestr Hir ar Ddiwrnod y Llyfr ac fe gyhoeddwyd y Rhestr Fer o 3 cyfrol ymhob iaith ar 29 Mai 2006 yng Ng?yl y Gelli. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Fawrth 11 Gorffennaf 2006.





Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.