Archif Newyddion

Cwmni Glass Hammer – cynllunwyr Llyfr y Flwyddyn - yn bwrw’r hoelen ar ei phen yn Ddylunydd y Flwyddyn 2006

Glass Hammer yn fuddugol

Cwmni Glass Hammer gipiodd gwobr Dylunydd y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Dylunio Dwyieithog 2006 Bwrdd yr iaith Gymraeg ar nos Fawrth 13 Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Enillodd y cwmni, a sefydlwyd yng Nghaerdydd ond 9 mis yn ol, prif wobr y noson am eu gwaith dylunio i‘r Academi Gymreig ar gyfer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2006.

Dyma’r chweched tro i’r Bwrdd gynnal cystadleuaeth Gwobrau Dylunio Dwyieithog sy’n tyfu yn flynyddol o ran statws ag apêl. Bwriad y gwobrau yw hyrwyddo a chodi proffil gwaith dylunio dwyieithog a chydnabod y goreuon yn y maes arbenigol hwn.

Dywedodd Nia Parry, cyflwynydd y noson ag aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, “Mae heno yn achlysur arbennig i ni gydnabod, gwobrwyo a dathlu holl waith dylunio dwyieithog gwych y flwyddyn ddiwethaf. Mae tua mil o gwmnïau wedi cystadlu eleni. Mae hyn yn profi fod yna alw mawr a dealltwriaeth glir o effaith cadarnhaol y gall gwaith dylunio dwyieithog da ei gael ar ymgyrch, hysbyseb neu gynnyrch.”

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, “Mae’r Gwobrau dylunio Dwyieithog yn helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy ac atyniadol tra hefyd yn prif ffrydio ei defnydd a’i pherthnasedd i fywyd bob dydd. Wrth dynnu sylw at y nifer gynyddol o waith dylunio dwyieithog gallwn danlinellu potensial ei effaith. Gall fod yn arf unigryw i greu argraff a helpu i wahaniaethu un cynnyrch o’r gweddill.”  

Roedd beirniaid y gystadleuaeth eleni wedi eu plesio’n arw gan safon uchel y gwaith a ddaeth i law eleni.

 Dywedodd Angela Gidden, dylunydd a beirniad, “Mae safon y gwaith a welsom eleni yn uchel iawn ym mhob categori. Gall unrhyw un weld o’r gwaith sy wedi cyrraedd y rhestrau byrion bod dwyieithrwydd ddim yn golygu fod angen cyfaddawdu safon y dylunio. Mewn gwirionedd, mae dylunwyr da yn aml yn defnyddio dwyieithrwydd i ychwanegu dimensiwn  artistig a dyfnder i’w gwaith.”        

Dywedodd Alun  Pugh, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg, “ Hoffwn longyfarch bob cwmni a sefydliad sydd yn rhan o’r gwobrau ac rwy’n falch gweld gwaith o’r sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol sy’n dangos dealltwriaeth o werth gwaith dylunio a brandio dwyieithog da. Mae hwn yn gam arall tuag at sicrhau fod yr iaith yn chwarae rhan ym mhob agwedd o fywyd bob dydd pobl ac yn allweddol I ni gyrraedd ein nod o greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.”

Llyfr y Flwyddyn

Enillwyr pob categori:

Arwyddion - CRAFT a FBA

Paneli Arddangos - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda’u  dylunwyr mewnol

Pecynnu Bwyd a Diod - Cwmni Caws Caerfyrddin a FBA

Hysbysebu - Yr Academi Gymreig a Glass Hammer

Hyrwyddo i’r Cwsmer - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Synergy Creative Design & Marketing Ltd

Hyrwyddo Corfforaethol - S4C a Departures

Brand Cymreig - Partneriaid Blaenafon a 6721

Cyfryngau Newydd - Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Elfen

Amgylcheddol - Canolfan ECO Gorllewin Cymru a Zodshop

Categori Gwaed Newydd - Hoffi

Llyfr y Flwyddyn: Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddwy gyfrol orau yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd Rhestr Hir ar Ddiwrnod y Llyfr ac fe gyhoeddwyd y Rhestr Fer o 3 cyfrol ymhob iaith ar 29 Mai 2006 yng Ng?yl y Gelli. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Fawrth 11 Gorffennaf 2006.

Y Wobr