Archif Newyddion
Gwobrau Tir na n–Og 2006
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2006 mewn cinio arbennig yng nghynhadledd ‘Cwlwm Celtaidd’ CILIP Cymru a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
1976 - 2006: Dathlu 30 mlynedd
Eleni mae gwobrau Tir na n-Og yn dathlu deng mlynedd ar hugain ers eu sefydlu yn ôl ym 1976. Dywedodd Menna Lloyd Wililams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau: ‘Yn ystod y deng mlynedd ar hugain gwelwyd datblygiadau aruthrol ym maes cyhoeddi llyfrau plant yn y ddwy iaith o safbwynt cynnwys a diwyg a’r amrywiaeth o lyfrau sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.’
Bydd rhaglen hanner awr yn cyflwyno cefndir Gwobrau Tir na n-Og ac yn anrhydeddu enillwyr eleni yn cael ei darlledu ar raglen ‘Wedi 7’ ar S4C nos Lun 29 Mai 2006.
Categori Cynradd Cymraeg
Enillydd: Emily Huws – Carreg Ateb (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)

Enillydd y wobr yn y categori cynradd yw Emily Huws am ei nofel Carreg Ateb (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion), cyfrol ddifyr a ffres ar gyfer plant 9–11 oed sydd yn adleisio chwedl Hugan Fach Goch. Mae’r gyfrol yn adrodd hanes Blodyn Haf, merch 10 oed sy’n mwynhau paratoi cywaith ysgol a bod yn aelod o dîm pêl-rwyd yr ysgol, ond sydd hefyd yn dioddef cael ei bwlio ac yn gweld ei thad yn cael ei garcharu ar gam. Mae’r nofel hon yn ddilyniant i’r gyfrol Eco (a enillodd wobr Tir na n-Og yn 2005).
Dyma’r pedwerydd tro i Emily Huws ennill Gwobr Tir na n-Og.
Categori Uwchradd Cymraeg
Enillydd: Gwion Hallam – Creadyn (Gwasg Gomer)

Enillydd y wobr yn y categori uwchradd yw Gwion Hallam am ei nofel Creadyn (Gwasg Gomer), nofel sy’n llawn cyffro a dioddef wrth i ni ddilyn bachgen pedair ar ddeg oed sy’n gorfod ymdopi â byw mewn tŷ ar drogylch mewn dinas wedi iddo gael ei fagu’n hapus ar fferm yng nghefn gwlad, a’r berthynas anodd rhyngddo ef a’i dad wedi marwolaeth ei fam. Mae’r prif gymeriad yn ceisio addasu i’r sylweddoliad rhyfeddol ac ofnadwy ei fod yn greadur sy’n medru pontio rhwng byd dyn a byd anifail.
Hon yw nofel gyntaf Gwion Hallam ar gyfer pobl ifainc yn eu harddegau.
Y Wobr Saesneg
Enillydd: Jenny Sullivan – Tirion’s Secret Journal (Gomer/Pont Books)

Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i Jenny Sullivan am ei nofel Tirion’s Secret Journal (Gomer/Pont).
Mae hon yn nofel hanesyddol, wedi ei lleoli yn Llancaiach Fawr yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Gyda’r Rhyfel Cartref yn gefndir iddi, mae’r nofel hon yn cynnig portread bywiog a llawn hiwmor o fywyd y cyfoethog a’r tlawd yn ystod y cyfnod ac yn cynnwys crynodeb o’r hanes.
Mae’r gyfrol yn addas i blant 8-11 oed.
Cyflwynir y gwobrau’n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn tri chategori: categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau’r flwyddyn gyda chefndir dilys Cymreig. Noddir dwy o’r gwobrau gan CILIP Cymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru: 01970 624 151 / elwyn.jones@cllc.org.uk




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.