Archif Newyddion
Yr Academi ac Adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru
o Gelfyddydau Cymru
Bydd aelodau’r Academi eisoes yn gwybod y bu i Lywodraeth Cynulliad Cymru fynegi ei dymuniad yn 2005 i gwtogi’n sylweddol swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru fel nawdd–gyllidwr y celfyddydau yng Nghymru. Yn ôl y datganiad a wnaed y pryd hynny, byddai’r cyfrifoldeb dros gyllido chwe phrif gleientiaid Cyngor y Celfyddydau, y cyfeirid atynt fel y ‘Big Six’, yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i’r Llywodraeth ei hun. Yn Ionawr 2006, yn dilyn dadleuon tanbaid a chryn drafodaethau cyhoeddus, ynghyd â cholli’r bleidlais ar gynnig a ystyriwyd yn y siambr drafod yn y Bae, penderfynodd y Cynulliad apwyntio panel adolygu i chwilio’n fanwl i fewn i gwestiwn nawdd-gyllido’r celfyddydau yng Nghymru.
Dyma aelodau’r panel hwnnw: Elan Closs Stephens (Cadeirydd) - Athro Diwydiannau Creadigol a Chyfathrebu o fewn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a Chyn-Gadeirydd Sianel4Cymru; Roger Lewis - Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Cymru; Paul Loveluck CBE - Llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Vicky Macdonald - Cyn-Guradur yr Academi Gambriaidd yng Nghonwy rhwng 1993-2005; Yr Athro M Wynn Thomas - Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yng Nghymru, yn Abertawe; ac Alan Watkin - Prif Swyddog Diwylliant, Hamdden a Llyfrgelloedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Meddai Cadeirydd y Panel, Elan Closs Stephens: “Rydw i’n edrych ar yr adolygiad hwn fel ymgom genedlaethol yng Nghymru ynghylch y ffordd rydym ni’n cyllido’r celfyddydau. Rydym ni fel cenedl yn gasgliad o unigolion, o berfformwyr ac artistiaid hynod o greadigol; ac rydw i’n sicr bod yna lawer o bobl a fydd yn dymuno cyfrannu i’r adolygiad hwn. Hoffwn annog pawb i wneud hynny.”
Bydd yr Adolygiad yn cynghori’r Gweinidog Chwaraeon, Iaith Gymraeg a Diwylliant, o safbwynt:
a) Swyddogaeth bresennol a dyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn perthynas â’r canlynol:
• nawdd-gyllido’r celfyddydau, gan gynnwys y sefydliadau celfyddydol cenedlaethol;
• datblygiadau’r celfyddydau yng Nghymru;
• datblygiad mynediad i, a chynhwysedd o fewn, y celfyddydau; ynghyd â thaclo anghydraddoldeb cymdeithasol.
b) Swyddogaethau Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ill dau ohonynt yn y dyfodol, gan ystyried yr angen i sicrhau’r canlynol:
• atebolrwydd democrataidd;
• tryloywder a didwylledd agored;
• rhyddid celfyddydol;
• amgylchedd cymwys i’r celfyddydau fedru ffynnu o’i fewn, ym mhob rhan o Gymru;
• gwella mynediad i’r celfyddydau a gwella rhagoriaeth yn y celfyddydau;
• gweithredu egwyddor o reoli a datblygu’r rhai sy’n derbyn nawdd-gyllid celfyddydol.
c) Ariannu’r celfyddydau mewn cyd-destun rhyngwladol:
• lefelau o nawdd-gyllido’r celfyddydau;
• mecanwaith ar gyfer gweithredu’r cyllido.
Bydd yr adroddiad yn gosod allan gasgliadau’r trafodaethau ac yn datgan argymhellion.
Bydd angen i’r panel adolygu wneud y canlynol:
• adolygu a dadansoddi seiliau’r dystiolaeth, er mwyn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer datblygu argymhellion polisi;
• cysylltu gydag amrediad eang o unigolion a grwpiau, i archwilio ystod amrywiol o farn a thybiaethau ynglwn â rôl a swyddogaeth y Cyngor Celfyddydau, a hefyd parthed y dulliau dichonadwy o ymdrin â datblygiadau ym maes y celfyddydau tua’r dyfodol;
• cyflwyno i’r Llywodraeth argymhellion polisi, wedi eu seilio ar dystiolaeth gadarn ac o ganlyniad i ymgynghori â’r cyhoedd.
Bydd yr Adolygiad yn cwblhau ei adroddiad terfynol cyn Rhagfyr 2006. Bydd y cyfryw adroddiad wedi ei gynllunio i hysbysu Llywodraeth y Cynulliad ar fframwaith gogyfer y trefniadau cyllido a fydd yn y dyfodol yn cefnogi’r celfyddydau, gan gynnwys swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd wrthi hi’n sefydlu gwefan i siartio gwaith-gynnydd a datblygiadau’r Adolygiad wrth iddo fwrw ymlaen gyda’i orchwyl. Disgwylir i’r wefan fod yn ei lle ‘yn fyw’ cyn diwedd mis Mai 2006. Trefnir i sefydlu dolen gyswllt ar y wefan hon i hwyluso mynediad uniongyrchol i wefan yr Adolygiad.
Mae’r Academi Gymreig, fel Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol Cymru a’r hynaf o blith sefydliadau awduron yng Nghymru, yn bwriadu mynegi ei barn i’r panel adolygu. Er mwyn i ni fedru gweithredu proses o ymgynghori â’n haelodau, hoffem eich gwahodd chwi i roi gwybod i ni am eich barn a’ch sylwadau. Bydd y cyfryw safbwyntiau yn cael eu crynhoi gan staff yr Academi, yna fe’u trafodir ganddynt hwy a chan Fwrdd Rheoli’r Academi, ac wedyn fe’u defnyddir fel sail i lunio argymhellion i’w cyflwyno maes o law i’r Adolygiad. Gosodir cyfryw argymhellion y Bwrdd fel eitem i’w thrafod ar agenda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhelir ar y 29ain Medi 2006.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar y ddadl a’r drafodaeth, trwy ymweld â:
Gwefan Theatr yng Nghymru ar: http://www.theatre-wales.co.uk/news/index.asp
ynghyd â thrwy lawr-lwytho dogfen yr Academi ei hun: Bygythiad Dichonadwy i Ryddid Celfyddydol ~ A Potential Threat to Artistic Freedom, y gellir ei chaffael ar y wefan ganlynol: http://www.academi.org/main.cfm?goto=News&spec_id=4842&langu=english
Gall aelodau nad oes ganddynt yr adnoddau i hygyrchu’r rhyngrwyd, gysylltu â swyddfa’r Academi er mwyn derbyn copi caled o’r ddogfen uchod: 029 2047 2266.



