Archif Newyddion

Cyhoeddi Bardd Plant Cymru newydd

Gwyneth Glyn

Ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych cyhoeddwyd mai Gwyneth Glyn fydd Bardd Plant Cymru 2006–7.

Mae Gwyneth Glyn yn wyneb cyfarwydd– yn fardd, awdur nofelau i bobl ifainc, dramodydd, actores, sgriptwraig a chantores o fri – gan brofi bod y lodes o Lanarmon yn llawn haeddu’r teitl “Gwyneth Glyn Gwneud Pob Dim”.

Fe’i ganed yn Eifionydd a graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen mewn Athroniaeth a Diwynyddiaeth. Cipiodd Goron Eisteddfod yr Urdd Llŷn ac Eifionydd ym 1998 ac ers hynny mae Cymru gyfan wedi manteisio ar ei doniau cerddorol a llenyddol.

Mae pobl ifainc Cymru eisoes wedi profi cynnyrch creadigol Gwyneth – bu’n sgriptio i’r gyfres deledu Rownd a Rownd, mae hi wedi cyhoeddi sawl cyfrol i blant a phobl ifainc a bu’n cyd-weithio â Gai Toms a disgyblion Coleg Meirion-Dwyfor ar y sioe gerdd Set, Dryms a Toilet Rôl. Yn 2005 rhyddhawyd ei halbwm boblogaidd, Wyneb Dros Dro ac fe’i gwobrwywyd yn Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau RAP 2006.  Enillodd Stomp y Steddfod yng Nghastell Caernarfon yn 2005, bu’n aelod o dîm Y Tywysogion ar Dalwrn y Beirdd ac yn rhan o daith lenyddol yr Academi Un Cês a Sawl Lodes Lén.

Yn ogystal â hyn oll, mae hi wedi ysgrifennu dramâu i Gwmni’r Fran Wen, Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni’r Arad Goch gan gyfarwyddo ei drama ei hunan, Ar Y Lein, i Theatr Bara Caws.

Bydd cyfle i ysgolion drefnu ymweliad gan y bardd amryddawn hon – cysylltwch â barddplant@academi.org i drefnu. Cofiwch fod y nifer o ymweliadau yn gyfyngedig (ni fu’n bosibl i glônio Gwyneth eto…) a’r cyntaf i’r felin fydd hi.

Menter ar y cyd rhwng S4C, yr Urdd, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru. Bwriad y cynllun yw codi ymwybyddiaeth am farddoniaeth mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad. Ymhlith y beirdd a dderbyniodd yr anrhydedd yn y gorffennol mae Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Myrddin ap Dafydd a Menna Elfyn.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, ewch i wefan www.s4c.co.uk/barddplant