Archif Newyddion
Senedd Newydd ym Mae Caerdydd
Ymateb Sgwad Sgwennu Merthyr

Wrth Dd?r a Thân
Wrth dd?r a thân a thonnau’r môr
Fe aeth ein glo i yrru’r byd
O’r porthladd hwn ar longau pren
I dwymo tai a’u cadw’n glyd.
Fe hwyliodd ein haearn ar fadau mân
I godi rheilffyrdd wrth dd?r a thân.
Wrth dd?r a thân mae pwer gwres
Yn codi o’r ddaear yn ffynnon fflamau
Heb losgi, heb ddifa, heb frifo dim.
I ddod â grym a gwres a golau
I ganu cread, i gynnau cân
I gynnig gobaith, wrth dd?r a thân.
Wrth dd?r a thân, mae gyrru gwlad,
Y gwir i’ch cynnal wrth eich gwaith
Yn cadw, llafurio a rhyddhau
Ac arwain Cymru ar ei thaith.
Rhydd fel y môr a’r tonnau glân
I newid byd wrth dd?r a thân.
Gan: Thomas Davies, Zoe Evans, Cerys Hancox, Aimee Jones, Callum Jones, Eleri Kent
Naw Mlwydd Oed
Dwi’n naw mlwydd oed
ac yn dal i ddysgu a thyfu
Y profiadau newydd pob dydd
sy’n fy helpu i ddatblygu
Ar y dechrau ges i fy ngeni
mas o’r duwch a mewn i’r dydd
Anadlais yn ddwfn am y tro cyntaf
yn barod i brofi popeth sydd
O’r cychwyn cyntaf dechreuais gynyddu
O ddechreuad bychan daw pethau mawr
O’r hedyn lleiaf mae blodyn yn ymddangos
Sy’n agor ei betalau i oleuni’r wawr
Dwi’n naw mlwydd oed
Ac yn barod i aeddfedu
Fi yw eich dyfodol, eich gobaith, eich rhyddid
Nawr, gwyliwch fi, Gymru
Gan: Eliza Ashford, Mari Evans, Abigayle O’Sullivan, Abigail Williams–Clement
Calon Cymru
Calon Cymru
mor goch a’r ddraig.
Angen nerth i gadw ’i fynd.
Calon Cymru
yn pwmpio’n gryf.
Gweithio’n galed i gefnogi’n byd.
Calon Cymru
craidd cymuned
curo’n gyflym, egni bywyd.
Tan pwerus, peiriant newydd
corff sy’n gynnes iach a gonest.
Rheoli bywyd trwy ein teithiau
Gwaed yn gwthio trwy’n gweithiennau.
Gwlad sy’n tyfu,corff hyderus,
egni bywiog, pwysig hapus.
Calon Cymru
Gad iddi barhau i ddysgu.
Gad iddi barhaui garu.
Gad iddi barhau i ganu….
Gan: Jack Grifiths
Kameron Harrhy
Rhys Lewis–Jones
Ellice Puddy
Jon-Ethan Richards
Joseff Reed
Bu aelodau o Sgwad Sgwennu Merthyr, sydd yn mynychu Ysgol Rhyd y Grug ac Ysgol Santes Tudful, yn gweithio gyda Grahame Davies i greu’r cerddi uchod sydd yn ymateb i ymweliad i’r Senedd newydd ar 4ydd Chwefror 2006.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.