Archif Newyddion
Portreadau o awduron Cymru
Bydd porteadau o awduron Cymraeg gan yr artist Lorraine Bewsey yn ymddangos yn Nhŷ Llên, Abertawe ddiwedd y flwyddyn, ac yna yng Nghastell Bodelwyddan, sy’n bartner i’r Oriel Bortreadau Cenedlaethol yn Llundain, yn Ionawr 2007. Dywedodd yr artist Lorraine: "Wrth gysylltu fy mhaentiadau i lenyddiaeth, gallaf fanteisio ar frwdfrydedd y byd llenyddol yng Nghymru, ac rwyf wedi derbyn ymateb cadarnhaol iawn gan y rhai sy’n gwerthfawrogi’r posibiliadau o gyd–weithio rhwng y celfyddydau." Ceir portreadau islaw o Grahame Davies, Gwyneth Lewis, Owen Sheers a Paul Groves.
Grahame Davies
Gwyneth Lewis
Owen Sheers

Paul Groves



