Archif Newyddion
LLYFRAU LLESOL

Enwebwch y llyfr a oedd yn gyfrifol am eich iacháu chi…
Mae llyfrau’n bwysig. Maen nhw’n gallu’n hysbrydoli, ein cyffroi, ein haddysgu a’n diddanu ni. Ond mae rhai llyfrau’n bwysicach nag eraill – maen nhw’n gallu newid eich bywyd am byth. Rydyn ni am wybod pa lyfrau sydd fwyaf pwysig i chi.
A lwyddodd llyfr i’ch cynorthwyo trwy gyfnod anodd yn eich bywyd? Efallai roeddech chi’n sâl, o dan bwysau, yn mynd trwy ysgariad neu brofedigaeth neu unrhyw brofiad anodd arall. Os llwyddodd llyfr i’ch cynorthwyo chi i wella, lleddfu’ch poen, i gadw’ch meddwl oddi ar eich problemau neu wneud i chi edrych ar y byd mewn ffordd wahanol, yna rhowch wybod i ni.
Mae Gwasanaethau Diwylliant Rhondda Cynon Taf a’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn casglu hanesion am lyfrau sydd wedi’ch cynorthwyo chi. Gallan nhw fod yn lyfrau ffuglen, teithio, barddoniaeth, straeon byrion –unrhywbeth sydd wedi ei gyhoeddi yn lyfr. Bydd y canlyniadau i’w gweld ar wefan Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf a byddwn yn eu hatgynhyrchu nhw ar ffurf poster i’w dosbarthu o gwmpas y Fwrdeistref Sirol. Pwy a wyr, efallai bydd eich hanes chi’n ysbrydoli rhywun i ddarllen, ac yna’n eu cynorthwyo nhw gydag anawsterau maen nhw’n eu wynebu.
Defnyddiwch y ffurflen isod i nodi enw’r llyfr, nodwch mewn 50 gair neu lai, sut roedd y llyfr o gymorth i chi a pham y buasech chi’n argymell y llyfr rywun arall. Does dim rhaid i chi ddweud wrthon ni pwy ydych chi os nad ydych chi eisiau – byddwn ni’n trin pob ymateb yn gyfrinachol ac os nad ydych chi am ymateb trwy ebost, yna argraffwch y ffurflen isod ac anfonwch e at – Mark Etherington, Swyddog Datblygu’r Celfyddyau –Addysg a Materion Cymdeithas Gynhwysol , Gwasanaethau Diwylliannol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Ty Trevithick, Abercynon, Aberpennar CF45 4UQ. Neu anfonwch ebost at mark.etherington@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed eich hanes chi…




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.