Archif Newyddion

Cylchgrawn llenyddol ar-lein newydd - e-bych.com
Gair gan y golygydd:
Yn ddiamau, mae anawsterau i ysgrifenwyr wedi amlygu eu hunan dros y blynyddoedd. Pwy bynnag oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth doedd dim digon o gyfleoedd i ysgrifenwyr ddatblygu sgiliau a hybu hyder. Wedi cwbl, er cystal â’r cyrsiau yn Nhŷ Newydd, er enghraifft, doedd byth dilyniant felly collwyd unrhyw welliant.
Yn ychwanegol, mae problemau adferol i rywun sydd eisiau troi’n broffesiynol i dalu biliau, ond hefyd sydd eisiau ysgrifennu at safon gorau bosib, nid syndod felly bod ychydig iawn yn cyrraedd pen y daith.
Dyna sut gwelais bethau tua blwyddyn yn nôl ond meddyliais, gyda thechnoleg newydd (newydd i mi), fe fydd ffyrdd i orchfygu problemau traddodiadol cynhyrchu cylchgrawn, yn arbennig costau cynhyrchu megis argraffu a dosbarthu. Roeddwn i’n gorfod rhoi gorau i weithio mewn canolfan alw oherwydd RSI beth bynnag ac felly buodd amser gyda fi i greu cynllun busnes (diolch Cyfle Cymru a Potentia) a dechrau sawl cwrs ar greu gwefan gyda Dreamweaver.
Trychinebus oedd hyn i mi a’r hyfforddwyr oll - ni all gymeradwyo hyn heblaw bod sgiliau technegol a chelfyddydol yno yn barod, neu flynyddoedd i ddysgu. Yn sbâr. Edrychais am sawl grant (diolch i Fenter Cymru) a syrffiais y we am gwmni i gynhyrchu’r wefan. Y cwmni mwyaf addas i beth roeddwn i’n eisiau gwneud oedd Creo Interactive er bo’ fi’n sicr nad oedden nhw’n sylweddoli faint o waith oedd, gan, mewn gwirionedd, ddwy wefan oedd.
Wedyn, mater o ddysgu sut i weithredu’r wefan - lot o weddi ar y lap-top fanna - a thynnu popeth at ei gilydd i greu cylchgrawn sy’n ddifyrrus ac yn addysgiadol. Y cyfan sydd eisiau nawr yw gwneud yr un tric - dro ar ôl tro, ar ôl tro, ar ôl tro…. Hawdd a dweud y gwir.
Alun Howells



