Archif Newyddion
Sgriptio ar gyfer y Cyfryngau gydag Angharad Jones a Tony Llywelyn
Medi 15–17 2006 a Chwefror 16-18 2007
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Dyma eich cyfle i gofrestru ar gwrs Sgriptio ar gyfer y Cyfryngau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cwrs mewn dau hanner ydyw - penwythnos yn yr hydref a phenwythnos yn y gwanwyn a chyfle dros y gaeaf i weithio ar eich syniadau. Dyma gyfle i rai sydd am ddatblygu eu sgiliau o ddifri i weithio gyda dau sy’n brofiadol iawn yn y maes.
Cliciwch yma am ragor o fanylion.
Pris y cwrs yw £240 am y ddau benwythnos yn cynnwys bwyd a llety (£175 di-breswyl)
Cofrestrwch heddiw: cysylltwch â Sian Northey: 01766 522 811 neu cliciwch yma



