Archif Newyddion
Mae’r Academi yn chwilio am aelod ar gyfer
PANEL YSGOLORIAETHAU I AWDURON

I gynghori ar ysgoloriaethau 2007.
Mae gwybodaeth a/neu brofiad o un o’r meysydd canlynol o leiaf yn hanfodol: barddoniaeth, rhyddiaith greadigol, beirniadaeth lenyddol, llenyddiaeth plant, cyhoeddi.
Bydd disgwyl i aelod o’r panel ddarllen tua 30–40 o lawysgrifau ac adrodd yn llawn yng nghyfarfod blynyddol y panel ysgoloriaethau.
Cynhelir y cyfarfod panel nesaf yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2007.
Cynigir ffi o £450 y flwyddyn.
Dyddiad cau: 6 Hydref 2006
Anfonwch C.V. llawn a llythyr cais at:
Academi, Prif Weithredwr Peter Finch,
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FQ
Ffôn: 029 2047 2266 Ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org www.academi.org




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.