Archif Newyddion
Cinio Blynyddol yr Academi
gyda Gwyn Thomas a Byron Rogers

Gwesty Portmeirion, Sul 17 Medi 2006
Ymgynnull am 12.30pm
Gwyn Thomas
Bardd Cenedlaethol Cymru, mae’r Athro Gwyn Thomas yn llenor ac yn fardd uchel ei barch. Mae wedi cyfrannu’n helaeth i’r traddodiad ffilm yng Nghymru, ac yn un o arloeswyr llunyddiaeth – sef cyfuniad o ffilm a barddoniaeth. Dyma fydd testun ei drafodaeth.
Byron Rogers
Bywgraffydd a newyddiadurwr sy’n ysgrifennu ar gyfer y Sunday Telegraph, Guardian a Saga Magazine. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol, y diweddaraf yw bywgraffiad R.S. Thomas; The Man Who Went Into the West: The Life of R. S. Thomas (Aurum, 2006).
Mae llefydd cyfyngedig ar ôl. Y pris, sy’n cynnwys pryd tri chwrs, coffi a’r sgyrsiau yw £21.50 y pen neu £19.50 i aelodau’r Academi. Darperir offer cyfieithu ar y pryd.
I archebu’ch lle, cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org



