Archif Newyddion
Cwrs Sgriptio ar gyfer y Cyfryngau
gydag Angharad Jones a Tony Llywelyn

Medi 15–17 2006 a Chwefror 16-18 2007
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Dyma eich cyfle i gofrestru ar gwrs "Sgriptio ar gyfer y Cyfryngau" yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cwrs mewn dau hanner ydyw - penwythnos yn yr hydref a phenwythnos yn y gwanwyn a chyfle dros y gaeaf i weithio ar eich syniadau. Dyma gyfle i rai sydd am ddatblygu eu sgiliau o ddifri i weithio gyda dau sy’n brofiadol iawn yn y maes.
Gofynnir i fynychwyr y cwrs yma gyflwyno amlinelliad o flaen llaw o’r hyn yr hoffent weithio arno e.e sgript gomedi, drama ddogfen, cyfres, rhaglen blant… ac ar gyfer y teledu neu’r radio.
Yn dilyn y penwythnos cyntaf disgwylir i’r mynychwyr barhau gyda’r syniad gan anelu at gynhyrchu drafft terfynol yn ystod cwrs mis Chwefror. Does dim rhaid bod â phrofiad o sgwennu i’r cyfryngau ond disgwylir ymroddiad er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle arbennig yma.
Angharad Jones
Yn ogystal â bod yn gomisiynydd drama a ffilm S4C ers 1996 mae Angharad Jones yn sgriptwraig ac awdur. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1995 gyda’r nofel Y Dylluan Wen a chyd-greodd y gyfres Pengelli rhwng 1994 a 1996. Fel comisiynydd bu’n gyfrifol am gyfresi fel Caerdydd, Con Passionate, Emyn Roc a Rôl, Fondue Rhyw a Deinosôrs, Talcen Caled, A470 ac Amdani, a ffilmiau fel Porc Pei, Siôn a Siân, Eldra, Gwyfyn, Oed Yr Addewid, Dal : Yma/Nawr, Diwrnod Hollol Mindblowing a Solomon a Gaenor.
Tony Llywelyn
Awdur a chyfarwyddwr teledu a llwyfan profiadol iawn. Ymysg pethau eraill mae wedi sgwennu Emyn Roc a Rôl, Hapus Dyrfa a Steddfod, Steddfod, golygu Cyw Haul a Licoris Olsorts a chyfarwyddo Pobol y Cwm, Naw tan Naw a Hafod Haidd. Mae wedi gwneud llawer o waith ar gyfer y llwyfan ac yn bresennol yn gysylltiedig gyda Chwmni Theatr Bara Caws fel cydlynydd artistig yn gyfrifol am ddatblygu syniadau a chydweithio gydag awduron a chyfarwyddwyr.
Pris y cwrs yw £240 am y ddau benwythnos yn cynnwys bwyd a llety neu £175 yn ddi-breswyl
Cofrestrwch heddiw: cysylltwch â Sian Northey: 01766 522 811 neu cliciwch yma




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.