Archif Newyddion
SWYDDOG GWEINYDDOL YR ACADEMI

Mae’r Academi yn chwilio am berson brwdfrydig, dymunol a threfnus i weithio yn y brif swyddfa yng Nghaerdydd.
Bydd dyletswyddau’r ymgeisydd llwyddiannus yn cynnwys:
• hwyluso cyfarfodydd
• cynnal a chadw cronfeydd gwybodaeth
• datblygu aelodaeth yr Academi
• gweinyddu cynlluniau megis y cynllun Awduron ar Daith
• mynychu digwyddiadau llenyddol o bob math
• archebu deunyddiau’r swyddfa
• gofalu am danysgrifiadau
• dyletswyddau gweinyddol amrywiol, yn cynnwys ymateb i ymholiadau cyffredinol, llythyru, diweddaru gwefan yr Academi a chymryd cofnodion
• helpu trefnu digwyddiadau a chynadleddau
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r cymwysterau canlynol:
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn Gymraeg a Saesneg
• Y gallu i ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol e.e. Word, Excel a.y.b.
• Y gallu i weithio’n drefnus ac yn hyblyg
Cynigir hyfforddiant lle bo’r angen.
Cyflog: £14,000 – £15,500
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau: 28 Medi 2006
Cyfweliadau: 6 Hydref 2006
Anfonwch CV a llythyr cais at:
Academi
Prif Weithredwr Peter Finch
Tŷ Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266
ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org www.academi.org
Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.



