Archif Newyddion

Gobaith Cymru

Gwenno Mair Davies     Manon Wyn     Eurig Salisbury


Cewch gyfle i glywed crefft eiriol Rhywun Arall, Mr Anderson a Twmffi mewn noson i ddathlu gwaith buddugol gwobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006 ym Mae Caerdydd nos Fercher 4 Hydref. Bydd enillydd y Goron – Gwenno Mair Davies, y Gadair - Eurig Salisbury, a’r Fedal Lenyddiaeth - Manon Wyn yn darllen o’r gweithiau a gipiodd y gwobrau ac yn perfformio gwaith newydd o’u heiddo. Dyma dri awdur ifanc sydd eisoes yn mynd o nerth i nerth ym myd llenyddol Cymru.

Cyflwynir y noson gan Manon Rhys, cyd-olygydd Taliesin ac awdur Rara Avis, a gyraeddodd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006.

Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru
Bae Caerdydd
Nos Fercher 4 Hydref, 7.15 pm

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi
029 2047 2266 neu post@academi.org