Archif Newyddion
Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, 5 Hydref 2006

Bydd beirdd yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru wythnos nesaf i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar 5 Hydref 2006. Thema’r Diwrnod eleni yw Hunaniaeth, ac mae’r Academi wedi trefnu a noddi nifer o weithgareddau – yn Gymraeg a Saesneg - i alluogi pobl o bob oed i ymuno yn y dathliadau.
Bydd rhai feirdd ifainc mwyaf disglair Cymru ar daith "Crap ar Farddoni", tra fydd enillwyr prif wobrau llenyddol yr Urdd yn darllen eu gwaith yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Caiff plant ysgolion Cymru eu hudo gan Gwyneth Glyn, Bardd Plant Cymru, a bydd beirdd yn mynd ar y bws yn Nyffryn Nantlle. Ceir manylion llawn am y digwyddiadau hyn islaw:
04/10/2006
Gobaith Cymru - 7.15 pm. Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Manon Rhys yn cyflwyno rhai o enillwyr gwobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd 2006: Eurig Salisbury, Gwenno Mair Davies a Manon Wyn. Trefnir gan Academi: 029 2047 2266. Mynediad am ddim.
05/10/2006
Crap ar Farddoni - 7.30 pm. Gwesty’r Riverbank, Caerdydd
Rhan o daith farddonol gan feirdd ifainc i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd gan Wasg Carreg Gwalch. Gyda Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys a Hywel Griffiths. Noddir y daith gan Academi. Tocynnau: hywelmeilyr@gmail.com £4.00
05/10/2006
Chydig Bach yn Too Much - Oriel Mostyn, Llandudno
Noson yng nghwmni Ifor ap Glyn gyda arddangosfa gan yr artist Bedwyr Williams. Tocynnau £5/£4. Am ragor o fanylion cysylltwch â Olwen Dafydd: 01766 522817.
07/10/2006
Beirdd mewn Bws - 2.00 pm, Depo bws Rhiwlas
Taith o Rhiwlas i Fangor a Dyffryn Nantlle yng nghwmni Iwan Llwyd a Karen Owen. Paned a sgwrs ar y ffordd. Trefnir gan Academi. Tocynnau: Gwen Lasarus 01286 679465 neu gwenlasarus@gwynedd.gov.uk £3.00
02/10/2006-06/10/2006
Bardd Plant Cymru - ar daith
Bydd Gwyneth Glyn, Bardd Plant Cymru, yn ymweld â nifer o ysgolion wythnos nesaf fel rhan o daith swyddogol y cynllun. Noddir cynllun Bardd Plant Cymru gan yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266.
Am restr lawn o ddigwyddiadau llenyddol yn eich ardal ewch i’r adran "digwyddiadau" ar y wefan hon ar y fwydlen ar y chwith.



