Archif Newyddion
Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth gyda Bardd Plant Cymru

Bydd rhai o ddisgyblion ysgolion Cymru yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth mewn steil eleni yng nghwmni neb llai na Bardd Plant Cymru – yr awdur a’r gantores Gwyneth Glyn.
Ar 5 Hydref 2006 bydd Gwyneth Glyn yn ymweld ag ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn fel rhan o daith ysgolion Bardd Plant Cymru, cynllun a drefnir ar y cyd gan yr Academi, Cyngor Llyfrau Cymru, S4C a’r Urdd.
Yn ystod y daith, a fydd yn para trwy gydol tymor y gaeaf, bydd Gwyneth Glyn yn ymweld â 25 o ysgolion o Landaf i Langefni, ac yn ysbrydoli plant a phobl ifainc o 4 i 18 oed i ysgrifennu barddoniaeth.
Dywed Gwyneth Glyn:
"Yn yr oes ryfedd yma lle mae ’na Ddiwrnod Atalnodi Cenedlaethol, a Diwrnod
Distawrwydd Cenedlaethol, mae’n naturiol ddigon fod ganddon ni ddiwrnod
arbennig ar gyfer barddoniaeth. Ond hefo mymryn o ddychymyg mi fedar pob
diwrnod o’r flwyddyn fod yn ddiwrnod barddoniaeth!
Mi fedrwn ni daro cerdd ar gerdyn pen–blwydd, neu yrru cerdd ddigri dros
neges destun i godi calon rhywun. Weithia, mi fedar taro llinell neu ddwy o
farddoniaeth mewn dyddiadur, boed nhw’n odli neu beidio, ddeud llawer mwy na llond tudalen o’n hanes ni.”
Caiff Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ei ddathlu trwy Gymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr, gyda beirdd yn perfformio’u gwaith o flaen cynulleidfaoedd o bob math. Thema’r dathlu eleni yw “Hunaniaeth”, ac mae Bardd Plant Cymru wedi llunio cerdd arbennig ar gyfer yr achlysur – ei gobaith yw y bydd rhai o blant ysgolion Gwynedd yn dysgu’r gerdd ar gof yn arbennig ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth:
Hunaniaeth
Does gen i’r un ddafad,
does gen i’r un ddraig,
a welis i ‘rioed
het fawr ddu ar hen wraig.
Fedra i ddim gyrru tractor,
na chanu’r un delyn,
a dwi ‘rioed ‘di arogli
yr un pabi melyn.
Mae’n gas gen i gennin
a chacan gri,
ac mae bara brith
yn troi arna i.
Dwi ‘rioed ‘di cyfarfod
yr hen Dewi Sant,
a ‘sa well gen i dagu
na chanu cerdd dant.
Ond mae gen i iaith,
ac mae honno’n ffrind
sy’n gwmni difyr
lle bynnag dwi’n mynd.
A tra bydd geiriau
rhyngddan ni,
mi fydda i’n gwbod
mai Cymro ydw i.
Gwyneth Glyn, Bardd Plant Cymru 2006
Cynllun ar y cyd rhwng yr Academi, Cyngor Llyfrau Cymru, S4C a’r Urdd yw Bardd Plant Cymru. Ewch i wefan Bardd Plan Cymru yma.



