Archif Newyddion
Gwobrau Cymru Greadigol – £25,000 i awduron

A ydych chi’n awdur sy’n chwilio am gyfle i ddatblygu’ch gyrfa broffesiynol? Gall gwobrwyon Cymru Greadigol, gwerth hyd at £25,000 eich cynorthwyo o bosib. Cynigir y gwobrwyon i awduron ac artistiaid profiadol o wahanol feysydd, yn cynnwys llenyddiaeth.
Am wybodaeth a chanllawiau, edrychwch ar yr adran nawdd ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru www.celfcymru.org, neu cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 am gyngor ar sut i wneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 3 Tachwedd 2006.
Geraint V. Jones a Des Barry dderbyniodd y gwobrau yn ystod 2005-6.



