Archif Newyddion

Lansio cystadleuaeth farddoniaeth Féile Filíochta 2006

Feile Filiochta

Mae 18fed Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta wedi’i lansio, gyda chategori iaith Gymraeg unwaith eto.

Cynigir Gwobr Fawr o 5,000 ewro am gyfansoddi’r gerdd orau yng nghategorïau Oedolion y gystadleuaeth, ynghyd â Gwobr Cerdd Ewrop Féile Filíochta a gaiff ei chyflwyno gan Gynulliad Rhanbarthau Ewrop.

Caiff buddugwyr pob categori eu gwahodd i seremoni wobrwyo fawr yn stafell ddawnsio Neuadd Sirol Dún Laoghaire–Rathdown.

I weld rhestr lawn o’r beirniaid, y rheolau a ffurflenni cais yn 10 iaith y gystadleuaeth, ewch i wefan y gystadleuaeth (gweler isod).

Dyddiad cau: dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2006.

Cyfeiriad ar gyfer ffurflenni cais: 

Féile Filíochta International Poetry Competition 2006
P.O. Box 6983
Blackrock
County Dublin
Ireland

00 353 (1) 278 1788
cpeoples@dlrcoco.ie     mkeyes@dlrcoco.ie
 www.dlrcoco.ie/library