Archif Newyddion
Encil i Ysgrifennu
8–11 Hydref 2006
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Yn dilyn llwyddiant yr encil fis Mawrth dyma ail gyfle i ddianc o ofalon bywyd pob dydd a threulio ambell ddiwrnod yn Nhŷ Newydd i gael llonydd i ’sgwennu a hynny yng nghwmni eraill o’r un anian. Nid cwrs yw encil, nid oes tiwtoriaid, ond bydd staff Tŷ Newydd yn gofalu amdanoch. Mae’r encil yma yn benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Y pris yw £195 - bydd pob un yn cael ’stafell sengl a bydd prydau bwyd yn cael eu darparu fel cwrs penwythnos arferol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth / i archebu lle.
Encil i Ysgrifennu
Sul 8 Hydref - Mercher 11 Hydref 2006
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth



