Archif Newyddion
Annwfn
Ionawr 20 – 21 2007
Bythynnod Llanteglos, Llanteg, Sir Benfro

Ydych chi’n ddigon dewr i ymlwybro i’ch isymwybod? Ydych chi’n barod i wynebu gwirionedd eich diymwybod? Neu efallai y byddai’n well gennych chi glywed am isymwybod â chyflwr seicolegol rai o awduron a beirdd enwocaf Cymru? Ymunwch â llenorion, academyddion a llêngarwyr am benwythnos preswyl a drefnir gan Academi yn Sir Benfro.
Cewch gilio rhag weddill y byd am ddau ddiwrnod o holi a stilio, darlithoedd a dansoddi, ymlacio a sgwrsio â chyfeillion. Bydd y sesiynau’n edrych ar rym yr isymwybod a’i effaith ar lenyddiaeth Cymru a thu hwnt.
Yna, fin nos, bydd cyfle i fwynhau’r cwrw a’r cwmni yn y dafarn wledig gydag adloniant gan y gr?p gwerin Toreth, cyn troi am y bythynnod am noson o gwsg yn llonyddwch hyfryd Sir Benfro.
Ymhlith y cyfranwyr bydd Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, y cerflunydd John Meirion Morris, Rocet Arwel Jones, Harri Pritchard Jones, Damian Walford Davies, Sioned Davies a’r seiciatrydd Dr Elin Ellis. Byddant yn cyffwrdd ar themâu cyn ehanged â gwaith Caradog Prichard a Waldo Williams, effaith yr isymwybod ar gelf weledol, elfennau sinistr a thywyll y Mabinogi a hyd yn oed dadansoddiad seiciatryddol o ddarnau o lenyddiaeth Gymraeg glasurol a chyfoes.
Pris y penywthnos fydd £90 / £80 yn cynnwys mynediad i bob sesiwn, llety dros nos, prydau bwyd a choffi.
Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.