Archif Newyddion
Noson yng Nghwmni Karen Owen
Nos Fawrth 7 Tachwedd 2006

7.30 pm, Canolfan Glyn Jones
Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Bydd Karen Owen yn trafod ei chyfrol newydd o farddoniaeth, Yn Fy Lle (Barddas, 2006). Dewch draw i’w holi am ei gwaith a’r hyn sydd yn ei hysbrydoli. Tocynnau yn rhad ac ddim, ond mae angen archebu o flaen llaw.
Yn fardd, newyddiadurwraig a golygydd y cylchgrawn Golwg, mae Karen Owen wedi ennill dros 30 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol a daeth yn agos at y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith. Mae’n cynnal dosbarthiadau cynganeddu ac yn gapten tîm talwrn Y Sgwod.
I archebu eich tocyn rhad ac am ddim, cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 neu post@academi.org



