Archif Newyddion
Awduron Cymru

Mae’r Academi yn diweddaru tudalennau Awduron Cymru y wefan, sef rhestr cynhwysfawr o bob awdur sy’n byw, neu a aned yng Nghymru. Mae’n adnodd ddefnyddiol i ymchwilwyr sydd â diddordeb yn y byd llenyddol yng Nghymru ac rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fanylion â phosibl yn yr adran hon o’n gwefan.
Os ydych chi’n awdur sy’n byw yng Nghymru neu wedi eich geni yno ond nad ydych ar y rhestr hon, neu os hoffech ddiweddaru, newid neu ehangu eich manylion presennol, cysylltwch â ni – post@academi.org - er mwyn derbyn templed digidol neu am enghraifft ddelfrydol o dudalen awdur. Mae croeso i chi hefyd anfon lluniau o gloriau llyfrau atom ar ffurf digidol yn unig. Rhaid i’r holl gyfatebiaeth ein cyrraedd ni erbyn 30 Tachwedd 2006 er mwyn ei ystyried.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â thudalennau Awduron Cymru ewch i www.academi.org
neu ffoniwch 029 2047 2266.



