Archif Newyddion

 G?yl Gynganeddu Tŷ Newydd
24 – 26 Tachwedd 2006

Tŷ Newydd

Penwythnos cyfan o weithgareddau yn ymwneud â chanu caeth – gweithdai, darlleniadau a thrafodaethau yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy. Bydd sesiynau i brifeirdd ac i’r rhai sydd am wneud dim ond eistedd a gwrando. Gallwch fynychu un digwyddiad neu aros am y penwythnos cyfan a mynychu pob dim o’r nos Wener i’r pnawn Sul. Dyma ragolwg bras ar rai o weithgareddau’r ?yl :

Nos Wener:
BBC Radio Cymru’n recordio Gornest Gaeth Arbennig ar gyfer cyfres Y Talwrn.

Dydd Sadwrn:
Gwersi cynganeddu i ddysgwyr rhonc a phrofiadol.
Fy Hoff Englynion – pedwar bardd yn dewis pedwar o’u hoff englynion.
Dyfalu Llinell Enwog – teflir llun, darn fesul darn, ar sgrîn fawr a bydd y gunulleidfa a phanel o feirdd yn ceisio dyfalu pa linell enwog gaiff ei awgrymu.

Nos Sadwrn:
Noson o gerddi cynganeddol amrywiol.

Dydd Sul:
Darlith Saesneg – yn ymwneud â’r gynghanedd.
Cinio Caeth – mewn gwesty lleol, i gloi’r ?yl.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Mei Mac yn Nhŷ Newydd: 01766 522811 / post@tynewydd.org