Archif Newyddion

Y Daith wedi Dechre – Crap ar Farddoni

Crap ar Farddoni 

Er mwyn dathlu cyhoeddi cyfrol newydd gan Wasg Carreg Gwalch, mae’r Academi’n noddi taith farddonol gan feirdd ifainc yn ystod tymor yr hydref. Bydd Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys a Hywel Griffiths yn ymweld â nifer o leoliadau yn ystod y misoedd nesaf. Yn ôl ym mis Awst bu’r criw yn perffornio yng Ng?yl y Dyn Gwyrdd ac mae’r daith eisoes wedi bod yng Nghaerdydd, Pontypridd a Chaerfyrddin. Gweler fanylion gweddill y daith isod:

Taith Crap ar Farddoni 2006

27 Hydref - Tafarn y Cambrian, Aberystwyth
Dyddiad i’w gadarnhau - Noson 4 a 6, Caernarfon

Nosweithiau i ddechrau am 7.30 pm
Pris mynediad: £4
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â hywelmeilyr@gmail.com