Archif Newyddion
Diweddgan ar Daith

"Does yna ddim yn fwy doniol nag anffawd…"
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Yr Athro Gwyn Thomas wedi cyfieithu drama dywyll, gywilyddus o gomic, gan Samuel Beckett – un o ddramodwyr mawr y byd. O ddrafft gwreiddiol Beckett, yn Ffrangeg, y creodd Gwyn Thomas y cyfieithiad hwn felly mae’n amrywio ychydig o’r fersiwn Saesneg a fydd, o bosib, yn fwy cyfarwydd i gynulleidfaoedd.
Bydd y ddrama Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru - wedi ei chyfarwyddo gan Judith Roberts - yn mynd ar daith ledled Cymru, gan ddechrau yn Theatr Gwynedd, Bangor ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth - 5 Hydref 2006.
Diweddgan, Samuel Beckett (Cyfieithiad: Gwyn Thomas)
Cyfarwyddwraig: Judith Roberts
5 - 7 Hydref: Theatr Gwynedd, Bangor
11 - 12 Hydref: Theatr y Sherman, Caerdydd
19 Hydref: Theatr Hafren, Y Drenewydd
24 Hydref: Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
27 - 28 Hydref: Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
31 Hydref: Y Lyric, Caerfyrddin
3 Tachwedd: Theatr Mwldan, Aberteifi
Ewch i www.theatr.com am ragor o fanylion.
I ddarllen mwy am waith Bardd Cenedlaethol Cymru ewch i’r adran "Prosiectau" ar wefan Academi: www.academi.org



