Archif Newyddion


Meithrin Awduron y Dyfodol – Galw am Fentorwyr

Ydych chi’n hoffi darllen llawysgrifau llenyddiaeth greadigol? Oes gennych chi brofiad o hyfforddi darpar awduron? Mae’r Academi’n chwilio am Fentorwyr profiadol i ychwanegu at ein rhestr.

Mae Gwasanaeth Mentora Awduron yr Academi’n cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron sy’n dangos addewid eithriadol – y rhai hynny y mae cyhoeddwyr eisoes wedi dangos diddordeb mawr yn eu gwaith. Mae’r Gwasanaeth wedi ei gynllunio i ddatblygu’r gwaith hwnnw sydd ar y gweill a’i gael i safon cyhoeddi.

Rhoddir cymorth ar ffurf nifer o sesiynau (hyd at bump) dros gyfnod o 18 mis. Telir ffi i’r mentorwr am bob sesiwn a gynhelir, ynghyd â chostau teithio. Disgwylir i’r awdur sy’n defnyddio’r gwasanaeth roi amser rhwng y sesiynau tiwtora er mwyn datblygu’r gwaith. Felly hefyd disgwylir i’r mentor ddarllen y gwaith cyn bob cyfarfod mentora.

Am ragor o fanylion am y gwasanaeth hwn, ewch i’n gwefan www.academi.org

Dylai awduron sydd â diddordeb mewn mentora anfon C.V. llawn a llythyr cais at:

Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch,
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd CF10 5FQ
post@academi.org   www.academi.org