Archif Newyddion


Noson yng Nghwmni Karen Owen

Karen Owen

Nos Fawrth 7 Tachwedd 2006
7.30 pm

Canolfan Glyn Jones
Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd

Bydd y bardd, newyddiadurwr a golygydd Golwg yn trafod ei chyfrol newydd o farddoniaeth, Yn Fy Lle (Barddas, 2006).

Mae Karen Owen wedi ennill dros 30 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol a daeth yn agos at y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith.  Mae’n cynnal dosbarthiadau cynganeddu ac yn gapten tîm talwrn Y Sgwod.

Mynediad am ddim, ond mae angen archebu tocyn o flaen llaw.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi:
Prif Weithredwr: Peter Finch
029 2047 2266 neu
post@academi.org