Archif Newyddion
Ymryson y Beirdd
Dau gynhyrchiad gan Lwyfan Gogledd Cymru

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn llawn drama a barddoniaeth nos Iau 16 Tachwedd 2006 wrth i Lwyfan Gogledd Cymru gynnal dau ddigwyddiad gyda golygfeydd craidd o frwydro fel rhan o breswyldeb wythnos o hyd yn y ganolfan gelfyddydau eiconig ym Mae Caerdydd. Ceir perfformiadau o Catraeth – gwaith Geraint Løvgreen a’r Prifeirdd Ifor ap Glyn ac Iwan Llwyd a ysbrydolwyd gan "Y Gododdin" - a drama Gymraeg Iwan Llwyd yn seiliedig ar y bardd Hedd Wyn.
Meddai Ian Rowlands, Cyfarwyddwr Artistig Llwyfan Gogledd Cymru, “Fe fydd rhai o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru yn cael eu dathlu yn y ddau gynhyrchiad yma, sydd yn rhannu thema ryfelgar. Gallaf hefyd eich sicrhau fod y beirdd eu hun yn ymryson ymysg ei gilydd am oruchafiaeth. Dewch i gael eich ysbrydoli.”
Catraeth
6.00pm, nos Iau 16 Tachwedd 2006
Llwyfan Tesco, Canolfan Mileniwm Cymru
Cyflwyniad Llwyfan Gogledd Cymru o gerddi o dan y teitl cyfunol ’Catraeth’ gan y beirdd Ifor ap Glyn, Iwan Llwyd a Geraint Løvgreen. Daw ysbrydoliaeth eu cerddi o’r gerdd ’Y Gododdin’. Mae ’Y Gododdin’ yn dyddio’n ôl i’r 6ed Ganrif, a chyfres ydyw o farwnadau i ?yr y Frenhinaiaeth Brythoneg a’i chyngreiriaid, a fu farw mewn brwydr yng Nghatraeth. Credir heddiw mae tref Catterick yng ngogledd swydd Efrog yw Catraeth. Cyflwynir y darlleniadau yn y Gymraeg, gyda chyfleusterau cyfieithu ar gael.
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr
7.00pm, nos Iau 16 Tachwedd 2006
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Wedi’r darlleniadau perfformir y ddrama Gymraeg ’Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr’ yng Ngaleri Weston. Ymhlith y cast bydd Iwan Tudor, Elin Wmffras a Huw Garmon. Byddant yn ail-gyfleu meddyliau olaf bywyd trasig y bardd Hedd Wyn, a fu farw yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra bod unrhyw golledion mewn rhyfel yn drasiedi, roedd marw Hedd Wyn fwyfwy ingol oherwydd iddo gael ei ladd chwe wythnos cyn iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917, y gadair a gafodd ei henwi yn Gadair Ddu Penbedw fyth ers hynny. Awdur y ddrama yw Iwan Llwyd, gyda Gareth Potter yn cyd-gyfarwyddo. Gydag isdeitlau Saesneg.
Mae mynediad i’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim. Am ragor o fanylion ewch i: www.llwyfan-gogledd-cymru.co.uk




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.