Archif Newyddion
Mwy na Rhywbeth i’w Wneud:
Barddoni mewn Canrif Newydd
Cynhadledd Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor
17–18 Tachwedd 2006

Bydd beirdd yn bombardio Prifysgol Cymru, Bangor ganol Tachwedd eleni. Rhwng 17 a 18 Tachwedd bydd cynhadledd a drefnir gan Ysgol y Gymraeg a’r Sefydliad Cymreig ar Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) a chyda chymorth Yr Academi Gymreig yn ystyried hynt barddoniaeth Gymraeg ar ddechrau canrif newydd.
Bydd y gynhadledd yn cael ei lansio ar y nos Wener 17 Tachwedd gyda noson yng nghwmni Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis. Yna ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd bydd Bardd Cenedlaethol presennol Cymru, Yr Athro Gwyn Thomas, yn rhoi barddoni yn ei le mewn trafodaeth gyda’r Prifardd Jason Walford Davies. Bydd Dr Jerry Hunter yn bwrw golwg yn ôl ar natur a chyfeiriad barddoniaeth Gymraeg ers y 1980au ac yn mentro awgrymu rhai tueddiadau i’r dyfodol. Ymhlith y cyfranwyr eraill mae Dr Grahame Davies, Dr Tudur Hallam a’r Prifeirdd Ifor ap Glyn a Myrddin ap Dafydd.
Am ragor o fanylion a ffurflen gofrestru, cysylltwch â Stephanie Dolben: 01248 382133 / wisca@bangor.ac.uk



