Archif Newyddion

Gwobrau Cymru Greadigol – £25,000 i awduron

Cyngor Celfyddydau Cymru

A ydych chi’n awdur sy’n chwilio am gyfle i ddatblygu’ch gyrfa broffesiynol? Gall gwobrwyon Cymru Greadigol, gwerth hyd at £25,000 eich cynorthwyo o bosib. Cynigir y gwobrwyon i awduron ac artistiaid profiadol o wahanol feysydd, yn cynnwys llenyddiaeth.

Am wybodaeth a chanllawiau, edrychwch ar yr adran nawdd ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru www.artswales.org 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 3 Tachwedd 2006.

e-bost: creativewales@artswales.org.uk

Mae David Alston, Cyfarwyddwr Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi croeso brwd i awduron yng ngwobrwyon Cymru Greadigol 2006-07:

“Mae’r gwobrwyon hyn yn fuddsoddiad blynyddol sylweddol er mwyn cefnogi artistiaid blaenllaw ym mhob ffurf mewn trobwynt yn eu gyrfaoedd. Mae gan y rhai a dderbyniodd wobrwyon hanes canmoladwy. Mae’r gwobrwyon wedi cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu gwaith a dulliau newydd, neu wedi prynu amser i’w galluogi i wireddu breuddwydion hirdymor yn eu ffurf dewisiedig. Mae rhychwant y gwobrwyon bellach yn cynnwys llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau. Does dim amheuaeth gennyf na fydd panel yr Academi’n wybebu syniadau a cheisiadau gan rai o awduron mwyaf talentog Cymru, a bydd yn anodd dethol enillwyr gwobrwyon Cymru Greadigol 2006-07. Rwyf innau’n edrych ymlaen yn fawr at y gwobrwyon hyn, ac yn fwy byth at eu cynnyrch.”

Geraint V. Jones a Des Barry dderbyniodd y gwobrau yn ystod 2005-6.