Archif Newyddion
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?

Cysylltiadau rhwng y Cymry a’r Gwyddelod yw canolbwynt y ddarlith a’r symposiwm sefydlu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn, y 18fed o Dachwedd. Mae’r digwyddiad addawol yma yn ddiweddglo i wythnos o ddathlu cysylltiadau Celtaidd rhwng Cymru a’r Iwerddon, a drefnwyd gan Lwyfan Gogledd Cymru fel rhan o’u preswyliad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Fe fydd pobl fusnes ac academyddion blaenllaw yn dod gyda’u gilydd i wrando ar ddarlith gan y prif siaradwr, Arwel Ellis Owen a fydd yn rhoi safbwynt darlledwr ac awdur o’r Teulu Celtaidd, wrth iddo archwilio mytholeg a realiti’r berthynas hanesyddol a phresennol rhwng y ddwy wlad.
Yn ystod canol yr wythdegau, treuliodd Mr Owen dair blynedd ym Melfast fel pennaeth rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon. Yn ystod ei amser yma, fe gafodd gryn ddirnadaeth i mewn i fywyd, diwylliant a gwleidyddiaeth y wlad, gan ddod i adnabod pobl gan werthfawrogi eu gwahanol cymhellion a’u safbwyntiau gwahanol. Mae e hefyd wedi teithio ar draws Gweriniaeth yr Iwerddon ac wedi hyfforddi newyddiadurwyr ledled y byd, yn cynnwys Moldova, India, Dubai a Norwy.
Hefyd ar y panel o arbenigwyr, yn ymuno ag Arwel Ellis Owen mewn trafodaeth, fe fydd Colm McGrady, Prif Gonswl Iwerddon i Gymru, Dr Claire Connolly o Brifysgol Caerdydd a Dr Paul O’Leary o Brifysgol Cymru Aberystwyth. Fe fyddant yn eu tro yn ymateb i ddarlith Mr Ellis Owen gan gyflwyno eu safbwynt hwy ar sefyllfa bresennol y berthynas rhwng Cymru ag Iwerddon. Yn dilyn eu sylwadau, fe fydd cyfle am sesiwn cwestiwn ac ateb rhwng y panel a’r gynulleidfa.
Mae mynediad i’r digwyddiad am ddim, ac fe’i cynhelir yn Ystafell Japan am 3 y prynhawn, er y bydd llefydd yn gyfyngedig.
Mae Llwyfan Gogledd Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 14–18 o Dachwedd 2006 yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, perfformiadau a darlithoedd yn archwilio’r cysylltiadau diwylliedig rhwng Cymru ag Iwerddon. Fe fydd y perfformiadau’n amrywio o lwyfannu cynhyrchiad Branwen gan Ifor ap Glyn a Darach O’ Scolai sy’n sicr o ysgogi’r meddwl i ddarlleniadau barddoniaeth gan rai o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd, i’r ddarlith Teulu Celtaidd a’r symposiwm sefydlu. Mae’r preswyliad felly’n addo i ddarparu gwledd o adloniant, trafodaethau a dadlau a fydd yn cyfoethogi sgyrsiau diwylliannol yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Ceir mwy o wybodaeth gan Lwyfan Gogledd Cymru ar 07855 758 265 neu ar-lein www.north-wales-stage.co.uk



