Archif Newyddion

GLYND?R
(Cerdd gan Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, a ddarlledwyd ar Radio Cymru i ddathlu diwrnod Owain Glynd?r)

Baner Owain Glynd?r

I

Rhagfyr oedd hi,
Pwll du y gaeaf oedd hi,
Mil Dau Wyth Dau oedd hi
Pan laddwyd y tywysog, Llywelyn,
`Ein Llyw Olaf’ fel y dywedwyd wedyn;
Hon oedd yr awr, fel y nododd rhywun,
`Y bwriwyd holl Gymru i’r llawr’.

II

Ar y llawr sut le ysydd?

Lle ydyw i’r distadl, a’r efrydd,
Y rhai sydd yn byw mewn cywilydd,
Y digarennydd, a’r di–ffydd:

Dyma inni y rhai hynny a gollodd eu tir;
Dyma inni yr uchelwyr a deimlai, yn wir,
Eu bod, oherwydd eu hil,
Heb gyfle i gynnal dim swyddi;
Dyma inni’r masnachwyr heb hawliau mewn trefi
I fynd a dod, a phrynu a gwerthu;
Dyma inni’r clerigwyr oedd yn cael eu cynddeiriogi
Gan rym o’r tu allan oedd yn eu rheoli.
A hyn i gyd, hyn i gyd
Oherwydd gormes a dig
Y rhai a alwai yr hanner cenedl hon
Yn `elynion Seisnig’, yn `estron’.

Yr estron a fu yn ein gwlad ni yn corddi
Y rhai hyn oedd ar lawr,
Eu corddi nhw i deimlo eu bod nhw,
O’r newydd, yn Gymry:
Ac wele, ac wele fe ddaeth yr awr.


III

Medi oedd hi,
Dechrau’r hydref oedd hi,
Un Fil Pedwar Dim oedd y dyddiad
Pan ddaeth yr awr.

Yn nhywyllwch a düwch difodiant
Oedd yn cancro ein cenedl ni
Daeth fflach a daniodd nwy ein diddymiant
Nes bod yn ein gwlad ni eto
Wybren a glaw, a heulwen a thyfiant;
Ac wele yma bren gobaith da yn blodeuo.

Daeth yr awr, a daeth y dyn,
Fe gyrhaeddodd olynydd Llywelyn -
`Gur meingryf, gorau mangre’:
Owain ydyw o Lyndyfrdwy.

Lle bu meiwyr yn gorwedd
Cynheuwyd cynddaredd;
Deffrowyd gan hynny
Unwaith eto y Cymry,
Y genedl sydd yma yn awr.


Ddiysgog dywysog, diolch.


IV

Diolch am beth, am beth?

Am obaith.

Ond, ond
Nid yw gobaith yn para am byth.
Oni phallodd ein goleuni,
Onid aethom ni, sawl gwaith,
Yn ôl i’n hen aeaf
I fod yn ddiynni a chlaf,
Onid aethom ni yn eger
Yn ôl i lyn cysgod Lloeger?

Do, a buom yno,
Buom ni yno yn hir.
Aethom eto i gywilyddio
Am ein bodolaeth.

Ond nid oedd bedd,
Nid oedd un bedd
Lle y gallai neb ddywedyd,
“Yma y mae’n gorwedd y g?r;
Yma yn farw y gorwedd Glynd?r.”

Aeth ei fodolaeth
Ac aeth ei obaith
I awyr ein Cymru ni:
A bu, ymhob oes wedyn,
Rai o hyd a anadlai yn gyndyn
Rym ei ysbrydoliaeth.

Yr hydref oedd hi,
Mil Naw Naw Saith oedd hi,
A phrawf oedd hi ar ein gobaith.

Ac yn neuadd deledu y BBC
Daeth eto awr
Pan ddyrchafwyd, yn y diwedd un, gri,
Gan y gymysgedd ohonom ni
Sydd erbyn hyn yn Gymry:
“Yr hyn a ddymunwn,” meddem ni,
“Bobol y darn hwn o dir ydi,
Nid bedd cyfforddus,
Ond bywyd i’n pobol ni,
Bywyd i ni trwy fod yma eni
Yr hyn a fydd, ryw ddydd,
Yn Senedd i ni.”

Ddisygog dywysog, diolch.

h. Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru