Archif Newyddion

Cerdd gan y Bardd Cenedlaethol i’r Prif Gwnstabl, Richard Brunstrom

Richard Brunstrom

DIOLCH BYTH AM RICHARD BRUNSTROM

Amser a fu
Pan nad oedd y Gymraeg yng Nghymru
Yn iaith swyddogol yr Heddlu.

Amser a fu
Pan oedd y Gymraeg yng Nghymru
Yn iaith a allai’n peryglu!

Amser a fu
Pan allai’r Gymraeg yng Nghymru
Ein hisraddio hyd anallu.

Yna fe ddaeth
Sais yn Brif Gwnstabl, ac fe wnaeth
Fyd sylweddol o wahaniaeth.

G?r ydoedd o
Na theimlai raid i gywilyddio
Am ein hiaith – yr oedd hi yno,
Meddai o, i’w defnyddio.

Diolch amdano,
Diolch amdano –
Mae eisiau mwy o Saeson
`Run fath â Richard Brunstrom,
A llai o’r Cymry hynny sy’n dyfeisio problemau
Er mwyn cau y Gymraeg dan gaeadau biniau.

Gwyn Thomas

Darllenwch am yr Archdderwydd yn canmol y Prif Gwnstabl yma.