Archif Newyddion

Stomp Eisteddfod Abertawe

Llongyfarchiadau mawr i Arwel Pod Roberts ar ennil Stôl Stomp yr Academi yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006.

Pod ac Ifor
Ifor ap Glyn (dde) yn cyflwyno’r Stôl i Pod

Bu cystadlu brwd wrth i’r beirdd awchu am gael eistedd ar y Stôl a dilyn yn ôl troed Gwyneth Glyn, enillydd Stôl Stomp yr Eisteddfod yn 2005.

Y stompwyr eleni oedd:

Huw Meirion Edwards

T. James Jones

Hywel Griffiths

Bethan Gwanas

Cynan Jones

Gwyneth Glyn

Huw Erith

Guto Dafydd

Annes Glynn

Gwenno Mair Davies

Mari Lisa

Osian Rhys Jones

Arwel "Pod" Roberts

Gwion Hallam

Geraint Løvgreen

Iwan Llwyd



gyda’r Stompfeistr Ifor ap Glyn.

Gyda lleoliad newydd sbon Maes C ar Faes Carafanau’r Brifwyl eleni am y tro cyntaf, roedd y babell yn orlawn wrth i’r gynulleidfa baratoi ar gyfer yr ornest eiriol rhwng yr 16 bardd a oedd yn brwydro am Stôl y Stomp. Ifor ap Glyn oedd y Stompfeistr

Pleidleisiodd y gynulleidfa i gael Cynan Jones, Hywel Griffiths, Bethan Gwanas ac Arwel Pod Roberts yn y rownd derfynol. Ac er i Bethan Gwanas ymbil ar ddynion Cymru i ddysgu dawsnio, a rhoi gwers ddawnsio Lladin–America i’r gynulleidfa gyfan, digrifwch Pod aeth â hi yn y diwedd, wrth i’w gerddi yntau wneud i’r gynulleidfa chwerthin yn eu dyblau.

Pod ac Ifor ap Glyn
Pod ar ei stôl. Gyda’r Stompfeistr Ifor ap Glyn