Archif Newyddion
Stomp Eisteddfod Abertawe
Llongyfarchiadau mawr i Arwel Pod Roberts ar ennil Stôl Stomp yr Academi yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006.

Ifor ap Glyn (dde) yn cyflwyno’r Stôl i Pod
Bu cystadlu brwd wrth i’r beirdd awchu am gael eistedd ar y Stôl a dilyn yn ôl troed Gwyneth Glyn, enillydd Stôl Stomp yr Eisteddfod yn 2005.
Y stompwyr eleni oedd:
| Huw Meirion Edwards | T. James Jones | Hywel Griffiths | Bethan Gwanas |
| Cynan Jones | Gwyneth Glyn | Huw Erith | Guto Dafydd |
| Annes Glynn | Gwenno Mair Davies | Mari Lisa | Osian Rhys Jones |
| Arwel "Pod" Roberts | Gwion Hallam | Geraint Løvgreen | Iwan Llwyd |
gyda’r Stompfeistr Ifor ap Glyn.
Gyda lleoliad newydd sbon Maes C ar Faes Carafanau’r Brifwyl eleni am y tro cyntaf, roedd y babell yn orlawn wrth i’r gynulleidfa baratoi ar gyfer yr ornest eiriol rhwng yr 16 bardd a oedd yn brwydro am Stôl y Stomp. Ifor ap Glyn oedd y Stompfeistr
Pleidleisiodd y gynulleidfa i gael Cynan Jones, Hywel Griffiths, Bethan Gwanas ac Arwel Pod Roberts yn y rownd derfynol. Ac er i Bethan Gwanas ymbil ar ddynion Cymru i ddysgu dawsnio, a rhoi gwers ddawnsio Lladin–America i’r gynulleidfa gyfan, digrifwch Pod aeth â hi yn y diwedd, wrth i’w gerddi yntau wneud i’r gynulleidfa chwerthin yn eu dyblau.

Pod ar ei stôl. Gyda’r Stompfeistr Ifor ap Glyn



