Archif Newyddion

Prif Lenorion Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006

Coroni Eigra 
 
Eigra Lewis RobertsDdydd Llun 7 Awst 2006 ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, cyhoeddwyd mai’r llenor Eigra Lewis Roberts oedd bardd buddugol y Goron am ei gwaith ar fywyd stormus y bardd Sylvia Plath. Yn ôl beirniaid cystadleuaeth y Goron eleni – Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis - roedd y gwaith buddugol yn "gasgliad o gerddi cywrain gan fardd medrus a lwyddodd i greu cerddi cyfoethog am un o feirdd mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif; un a drodd ei bywyd fel ei marwolaeth yn drasiedi fawr." Cyflwynywd y Goron er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands.

Mae Eigra Lewis Roberts yn un o brif lenorion Cymru.  Fe’i ganed ym Mlaenau Ffestiniog a’i haddysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.  Mae’n byw bellach yn Nolwyddelan ac yn briod gyda thri o blant a deuddeg o wyrion ac wyresau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd hi ond ugain oed ac ers hynny bu’n awdur toreth o gyfrolau, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a drama. Eleni roedd ei chyfrol o straeon byrion - Oni Bai (Gomer, 2005) - ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006. Hi oedd awdures y gyfres deledu Minafon.  Mae hi wedi ennill y Fedal Ryddiaith ddwy waith - yn Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd ym 1965 ac Eisteddfod Genedlaethol Y Bari a’r Fro - ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974, enillodd Dlws y Ddrama. 

Darllenwch fwy ar wefan BBC Cymru’r Byd

Y Prifardd Gwynfor ab Ifor

Gwynfor ab IforGwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth, Gwynedd, yw bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006. Beirniaid cystadleuaeth y Gadair eleni oedd y Prifeirdd Dic Jones, Ceri Wyn Jones a Gerallt Lloyd Owen. Honnodd Dic Jones mai hon oedd "un o’r cystadlaethau mwyaf clos" iddo ei beirniadu.

Ganwyd Gwynfor ab Ifor yn Sling ym 1954 gan fynychu Capel Gorffwysfa sydd bellach yn gartref iddo ef a’i wraig Bethan Gwyn o Rydcymerau. Mae’n dad i bedair merch, Elin, Angharad, Mari a Rhiannon Gwyn.

Graddiodd o Brifysgol Cymru yn 1975 a chael tystysgrif i raddedigion ym Mangor yn 1976. Wedi gyrfa gyda Chyngor Gwynedd yn yr adran addysg yn bennaf daeth yn brif swyddog gweinyddol y Coleg Normal o 1989 hyd uno’r sefydliad gyda’r Brifysgol yn 1996. Bu’n uwch-gofrestrydd cynorthwyol gyda’r brifysgol. Yn 2000 sefydlodd fusnes cyfieithu Tasg gyda’i wraig ac mae’r ddau yn gweithio o’r swyddfa ym Methesda.

Enillodd gadair Eisteddfod y Ffôr ger Pwllheli yn niwedd y 1970au a chystadlu am gadair Eisteddfod Meirion a’r cyffiniau yn 1997. Mae wedi cyfrannu’n gyson at ymrysonfeydd Barddas ac ar Dalwrn y Beirdd gyda thimau Dyffryn Ogwen a Thregarth.

Yn hunangofiant John Ogwen, Hogyn o Sling, cyfeirir at Mr ab Owen fel "bardd a fydd, gobeithio, y cyntaf o Sling i ennill Cadair y Genedlaethol".

Darllenwch fwy ar wefan BBC Cymru’r Byd 
 

Gwobr Goffa Daniel Owen
 
Gwen Pritchard JonesGwen Pritchard Jones o Bant Glas oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth 8 Awst 2006. Mae’r nofel wedi ei gosod ym 1641 a’r prif gymeriad Catrin Bodwrda yn ceisio ymchwilio i lofruddiaeth ficer Aberdaron flynyddoedd ynghynt, ym 1624. Mae’n cynnwys elfennau o serch ac antur ac mae’n seiliedig ar ddigwyddiadau a chymeriadau hanesyddol. Bu’r awdur am gyfnod o 20 mlynedd yn paratoi - yn ymchwilio ac yn ysgrifennu’r nofel. Yn ôl un o’r beirniaid, Branwen Jarvis, mae hon yn "nofel sylweddol" a’r awdur yn "hanesydd gwybodus".

Yn enedigol o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle, bu Gwen Pritchard Jones yn athrawes ysgol gynradd yng Ngwynedd, yn cadw stondin mewn marchnad, yn rhedeg cwmni arlwyo ac yn gweithio yn y BBC. Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r gyfraith cyn mynd i’r Coleg Normal ym Mangor i astudio i fod yn athrawes.

Darllenwch fwy ar wefan BBC Cymru’r Byd

Y Fedal Ryddiaith i Fflur Dafydd

Fflur DafyddFflur Dafydd o Gaerfyrddin enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Abertawe 2006. Roedd ei gwaith buddugol, Atyniad, yn un o 13 ymgais ddaeth i’r gystadleuaeth, yn waith a roddodd "gryn ddiddanwch" i’r beirniaid, Derec Llwyd Morgan, Jane Aaron a Grahame Davies. 

Gwobrwywyd Fflur ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher 9 Awst. Dywedodd yr Athro Derec Llwyd Morgan wrth draddodi’r feirniadaeth fod "ffresni" yng ngwaith buddugol yr awdures, "ffresni ei chymeriadaeth, ffresni ei harddull farddonol, ffresni ei digwyddiadau a’i hadroddiadau." Ychwanegodd Dr Grahame Davies mai "dyma wir artist" y gystadleuaeth tra bod Dr Jane Aaronyn dweud bod hon yn nofel "gelfydd ac yn argyhoeddi".

Awdur rhyddiaith, dramâu a cherddi.  Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i wneud MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, ac yna doethuriaeth ar waith y bardd R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru Bangor.  Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ym 1999 am ei chyfrol Y Gwir am Gelwydd, ac ers hynny bu’n gweithio ar amryw o brosiectau gwahanol, gan sgriptio ar gyfer y teledu a’r llwyfan.  Ysgrifennodd dair ffilm fer, ac fe gafodd un o’r rheiny  - ‘Bathtime’ -  ei enwebu ar gyfer gwobr DM Davies.  Ysgrifennodd hefyd ddramâu ar gyfer Sgript Cymru (Hugo, 2003) a Choleg y Drindod (Brewys, 2005).  Y mae hi’n golofnydd wythnosol i’r Western Mail ac yn olygydd y cylchgrawn Tu Chwith.  Wedi treulio amser yn diwtor sgriptio yn Adran Film a Theledu Prifysgol Cymru, Aberystwyth, mae hi nawr yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod.

Hi oedd awdur preswyl Ynys Enlli 2002, a hi yw cynrychiolydd Prydain yng Nguyl Lenyddiaeth y Scritture Giovanni 2005.  Wedi lansio ei halbwm cyntaf eleni, Coch am weddill fy Oes, mae Fflur hefyd yn gantores ac yn teithio o amgylch Ewrop gyda’i llên a’i cherddoriaeth.  Lansiwyd yn ogystal y flwyddyn hon ei nofel cyntaf, Lliwiau Liw Nos (Y Lolfa).  Mae hi nawr yn byw yng Nghaerfyrddin.

Darllenwch fwy ar wefan BBC Cymru’r Byd