Archif Newyddion


Campwaith y Cofiant

Rhys Evans


Nos Fawrth 11 Gorffennaf 2006 yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd cyflwynodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan siec o £10,000 i’r awdur Rhys Evans am ei gofiant Gwynfor: Rhag Pob Brad (Y Lolfa) a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2006.

Beirniaid y wobr oedd Catrin Beard, Elan Closs Stephens a’r Prifardd Ieuan Wyn. Meddai Catrin Beard ar ran y tri beirniad:

“Camp Rhys Evans yw ei fod wedi cyflwyno astudiaeth ddeallus a threiddgar mewn cyfrol ddarllenadwy a hygyrch. Mae’r arddull newyddiadurol yn gyson a chlir; does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae’n tynnu’r darllenydd i mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeingef ganrif.”

Ganed Rhys Evans yng Nghaerfyrddin, fe’i magwyd yn Aberystwyth ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth a Choleg Hertford, Rhydychen. Ers dros ddegawd, mae’n gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru. Ei gofiant ar fywyd y gwleidydd Gwynfor Evans, Gwynfor: Rhag Pob Brad, yw ei gyfrol gyntaf.

Y ddwy gyfrol arall ar y Rhestr Fer oedd Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 gan Dafydd Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru) a Rara Avis gan Manon Rhys (Gwasg Gomer).

Trefnir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi Gymreig ac fe’i chefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nofel i’r Bobl

Yn ystod yr wythnosau diwethaf rhoddwyd cyfle i wrandawyr Radio Cymru eu hunain fod yn feirniaid, gan fwrw’u pleidlais ar gyfer dewis enillydd i Wobr y Gwradawyr. Ar ôl gwobrwyo Rhys Evans, cyflwynwyd Gwobr Gwrandawyr BBC Radio Cymru i Manon Rhys am Rara Avis (Gwasg Gomer), a lwyddodd i ddenu dros 75% o’r pleidleisiau. Mae’r ffaith i Kitty Sewell ennill Gwobr Darllenwyr BBC Radio Wales am ei nofel Ice Trap yn dangos apêl fythol nofel dda ymhlith darllenwyr Cymru.

Llyfr y Flwyddyn 2006


Am ragor o fanylion cysylltwch â:
Academi, Prif Weithredwr Peter Finch, Tw Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266   ffacs: 029 2049 2930
e-bost: post@academi.org  gwefan: www.academi.org