Archif Newyddion

Annwfn – Cynhadledd Gymraeg yr Academi
Cwrdd ag un o’r Cyfranwyr: Yr Athro Sioned Davies

Sioned Davies

Traddodir darlith agoriadol y Gynhadledd, I Grombil Annwfn, gan yr Athro Sioned Davies am 11.45 y bore, dydd Sadwrn 20 Ionawr. Yn y sesiwn hwn, bydd hi’n ein tywys ar daith drwy elfennau sinistr y Mabinogi.

Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yw’r Athro Sioned Davies. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw traddodiad rhyddiaith yr Oesoedd Canol, ac yn arbennig chwedlau’r Mabinogion. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys cyfrolau megis Crefft y Cyfarwydd a Pedeir Keinc y Mabinogi (yng nghyfres ’Llên y Llenor’). Bydd ei chyfieithiad newydd o holl chwedlau’r Mabinogion (ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen) yn ymddangos ar 1 Mawrth 2007.

Annwfn: Cynhadledd Gymraeg yr Academi
20-21 Ionawr 2007
Bythynnod Llanteglos, Llanteg, Sir Benfro

Rhagor o fanylion: post@academi.org / 029 2047 2266
www.academi.org