Archif Newyddion
Branwen
gan Ifor ap Glyn a Darach ó Scolaí

Cariad ar draws môr Iwerddon…
Mae cynhyrchiad tairieithog Llwyfan Gogledd Cymru o Branwen gan Ifor ap Glyn a Darach ó Scolaí ar daith ledled Cymru. Mae’r daith eisoes wedi ymweld â Dulyn, Galway a Belffast yn ystod mis Hydref ac isod ceir dyddiadau a lleoliadau’r perfformiadau yng Nghymru.
Mae’r cynhyrchiad yn dilyn stori dau awdur – Gwyddel a Chymraes - sydd yn cael eu taflu at ei gilydd i ysgrifennu sgript ar gyfer fersiwn animeiddiedig o stori Branwen. Wrth i’r cefndryd Celtaidd droi’n gariadon, datgelir sawl cyfrinach am berthynas y ddau a pherthynas y ddwy wlad.
Gyda’r actorion Dafydd Dafis, Ffion Dafis, Stephen D’Arcy a Bridin Nic Dhonncha. Cynhyrchiad teiriethog, gyda chyfieithiad drwyddi draw.
Gweddill y Daith:
8-9 Tachwedd: Theatr Gwynedd, Bangor
14-15 Tachwedd: Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
18 Tachwedd: Theatr Elli, Llanelli
22 Tachwedd: Neuadd Dwyfor, Pwllheli
24 Tachwedd: Theatr Ardudwy, Harlech
Llwyfan Gogledd Cymru: 07855 758 264



