Archif Newyddion
Cystadleuaeth Farddoniaeth Féile Filíochta
Dyddiad Cau: 11 Tachwedd 2006

Mae amser ar ôl i chi gyflwyno’ch cerddi Cymraeg ar gyfer Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta. Y dyddiad cau yw dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2006, felly brysiwch i orffen eich cerddi a’u gyrru draw i’r Iwerddon.
Mae gwerth 25,000 ewro o wobrau i’w hennill mewn ystod o gategorïau oedran ac iaith a gwobr arbennig o 5,000 ewro i’r gerdd orau un y gystadleuaeth gyfan. Caiff y beirdd buddugol ymhob categori eu gwahodd i seremoni wobrwyo fawr yn stafell ddawnsio Neuadd Sirol Dún Laoghaire–Rathdown.
Y Prifardd Mererid Hopwood yw beirniad y categori iaith Gymraeg ac ymhlith cyn-enillwyr y categori hwn mae Tony Bianchi a’r Prifardd T. James Jones. I weld rhestr lawn o’r beirniaid a’r rheolau neu i ddadlwytho ffurflen gais ewch i www.dlrcoco.ie/library
Dylid anfon eich cerddi i’r cyfeiriad isod:
Féile Filíochta International Poetry Competition 2006
P.O. Box 6983, Blackrock, County Dublin, Ireland



