Archif Newyddion

UWCH–SWYDDOG LLENYDDIAETH
(Cyfnod Mamolaeth)

www.academi.org
 
Mae’r Academi yn chwilio am Uwch-Swyddog Llenyddiaeth i weithio ar gytundeb dros dro
rhwng 1 Ionawr 2007 a 1 Medi 2007.
 
Bydd dyletswyddau’r swydd yn cynnwys:

  • Bardd Cenedlaethol: Trafod telerau ail dymor gyda’r Bardd Cenedlaethol a pharatoi cytundebau. Cydlynu digwyddiadau a hysbysebu’r cynllun. Dosbarthu cerddi i’r wasg, gwefannau a chyfryngau eraill.
  • Bardd Plant Cymru: Cydlynu ymweliadau ag ysgolion a marchnata’r cynllun.
  • Cylchgrawn llenyddol Taliesin:Goruchwilio gwaith gweinyddol – taliadau cyfranwyr a golygyddion, dosbarthu copïau i danysgrifwyr. Trefnu lansiadau a chychwyn strategaethau marchnata. Goruchwylio dosbarthu taflenni i ganolfannau celf, llyfrgelloedd ac ati.
  • Yr Eisteddfod Genedlaethol: Sicrhau stondin. Cyd-drefnu digwyddiadau ar y Maes, e.e.Sgwadiau Sgwennu a phrosiect Cywaith Cymru. Trefnu digwyddiadau Maes C, gan gynnwys y Stomp, mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod
  • Gwefan/Cylchlythyr: Cyfrannu at y tudalennau newyddion a’r cylchlythyr.
  • Gwyddoniadur: Cynorthwyo gydag amserlennu cyhoeddi a marchnata. Dyddiad cyhoeddi yw mis Medi 2007. Cyfarfod gyda phartneriaid allweddol er mwyn trefnu lansiad uchel ei broffeil ym mis Medi 2007.
  • Cynadleddau: Cynorthwyo gyda threfnu a marchnata cynhadledd ddwyieithog yng Ngogledd Iwerddon.
  • Bydd gwaith ychwanegol yn cynnwys ymateb i geisiadau unigol ac ymholiadau yn yr iaith Gymraeg – cynnig cymorth a chymorth ar drefnu gweithgareddau llenyddol yn yr iaith Gymraeg.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r sgiliau canlynol:

  • yn siaradwr Cymraeg rhugl
  • gwybodaeth drylwyr am lenyddiaeth a’r byd llenyddol Cymreig yn y ddwy iaith
  • Wedi arfer â defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol Office
  • yn yrrwr
  • y gallu i drefnu digwyddiadau a phrofiad marchnata
  • patrwm gweithio hyblyg gan gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau

Cyflog:   £22,000 pro rata
Lleoliad:   Caerdydd
Dyddiad cau:  20 Tachwedd 2006
Cyfweliadau: 7 Rhagfyr 2006

Anfonwch CV a llythyr cais at:
Academi
Prif Weithredwr Peter Finch
Tŷ Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266
ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org      www.academi.org