Archif Newyddion

TALIESIN CYFROL 128, HAF 2006 – LLEISIAU O’R GORFFENNOL

Taliesin 128

Mae’r rhifyn diweddaraf o Taliesin newydd ymddangos yn y siopau. Y pris yw £4 y copi, gyda thanysgrifiadau am £11 y flwyddyn neu £19 am ddwy flynedd.

Bydd Taliesin 128: Rhifyn yr Haf yn rhoi sylw i rai o leisiau o’r gorffennol. Bydd yna gyfweliad rhwng Jennie Eirian, Amy Parry-Williams, Cassie Davies â Saunders Lewis, a gohebiaeth rhwng Prosser Rhys a Myfanwy Davies gan Nan Griffiths, tra bydd Katie Gramich yn ystyrired llenyddiaeth merched y Diwygiad

Yn ogystal ceir llenyddiaeth greadigol newydd gyda straeon byrion gan Siân Owen ac eraill a cherddi gan Ann Dafis Keane, W. R. P. George, Robert Lacey, Derec Llwyd Morgan ac eraill. Hyn oll ynghyd â rhagor o erthyglau, ysgrifau, cerddi, straeon ac adolygiadau – a’r croesair poblogaidd

Am fanylion pellach cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org

Cyhoeddir Taliesin gan yr Academi gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.