Archif Newyddion
Noson o farddoniaeth Urdu a Chymraeg

Canolfan Unity, 51–52 Sgwâr Loudoun, Caerdydd
Nos Wener 24 Tachwedd 2006, 8.00 pm
Yn y nesaf o gyfarfodydd yr Academi rhwng beirdd blaenllaw dau o brif ddiwylliannau Cymru, ceir darlleniadau gan y bardd gwadd T James Jones gydag aelodau Bazm-e-Adab, fydd yn darllen eu barddoniaeth yn Urdu. Ni chyfieithir y darlleniadau ond ceir esboniadau a chyflwyniadau yn Saesneg.
Croeso i bawb - darperir lluniaeth ysgafn. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org.
Mae Sgwâr Loudon tu ôl i Stryd Bute - ewch i’r map yma.



