Archif Newyddion

  Lansio TALIESIN 129: Rhifyn Gaeaf 2006

Taliesin 129

Bydd y rhifyn nesaf o Taliesin yn y siopau erbyn dechrau mis Rhagfyr.

Cynhelir lansiad yn Oriel Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor nos Lun 4 Rhagfyr 2006 am 6.30pm yng nghwmni’r golygyddion Christine James a Manon Rhys, a rhai o’r cyfranwyr John Rowlands, Jason Walford Davies ac eraill.

Cyflwynir gwobr cystadleuaeth Stori Fer Taliesin i’r enillwyr, gyda £1,000 yn wobrau diolch i Gr?p Boomerang Cyf. Croeso cynnes i bawb. Darperir gwin.

Am ragor o fanylion, neu i danysgrifio, cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / 01766 522 817 taliesin@academi.org      www.academi.org/taliesin

Cyhoeddir Taliesin gyda nawdd Cyngor Llyfrau Cymru.