Archif Newyddion

Cerddi yn y Cwpwrdd Cotiau

   Yr Athro Gwyn Thomas   Gwyneth Glyn

Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru a Bardd Plant Cymru yn rhannu llwyfan heno pan fydd Gwyn ThomasGwyneth Glyn yn perfformio’u cerddi yn Galeri, Caernarfon.

Gwyn Thomas – Bardd Cenedlaethol Cymru
Yn llenor a bardd toreithiog, mae’r Athro Emeritws Gwyn Thomas yn gyn-Athro Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor. Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan Wasg Gomer ym mis Tachwedd 2006. Gwyneth Glyn - Bardd Plant Cymru
Yn 26 oed, Gwyneth yw’r Bardd Plant Cymru ieuengaf eto. Mae hi wedi mwynhau chwarae gyda geiriau erioed, ac yn ogystal â barddoni mae hi hefyd yn awdures ac yn ysgrifennu (a pherfformio) caneuon. 
Cliciwch yma i ddarllen mwy am ei gwaith ers iddi gamu i esigidau Bardd Plant Cymru ym mis Mai 2006.

Pris tocyn yw £5 (£4 gostyngiad) - ffoniwch Galeri i archebu: 01286 685222.

Cerddi yn y Cwpwrdd Cotiau
Nos Iau 7 Rhagfyr
8.00 pm - Galeri, Caernarfon

 
Bardd Cenedlaethol Cymru   Bardd Plant Cymru

Gweinyddir cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru gan yr Academi gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Menter ar y cyd rhwng S4C, yr Urdd, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru.