Archif Newyddion

Seicdreiddiad yn Sir Benfro


"Couch" Sigmund Freud

Yn ystod penwythnos 20–21 Ionawr 2007 bydd academyddion, awduron a seiciatryddion yn dod at ei gilydd ar gyfer Annwfn: Cynhadledd Gymraeg yr Academi. Thema’r gynhadledd yw seicoleg ac effaith yr anymwybod a’r isymwybod ar lenyddiaeth Cymru a thu hwnt. Cynhelir sesiynau amrywiol yn edrych ar waith Waldo Williams, elfennau sinistr y Mabinogion, arwyddocâd symbolau a seisynau’n dadansoddi gweithiau llenyddol mwyaf adnabyddus Cymru.

Bydd Dr Harri Pritchard Jones hefyd yn cynnal dadansoddiad Freudaidd o waith Caradog Prichard. Isod, mae’r Academi’n cynnig cyflwyniad byr i chi o un agwedd ar seicoleg.

Cyflwyniad Byr i Seicdreiddiad:
Sigmund FreudTeulu o theorïau a dulliau seicolegol yw seicdreiddiad (psychoanalysis) ac mae’n seiliedig ar waith arloesol Sigmund Freud. Yn dechneg o seicotherapi, mae seicdreiddiad yn ceisio darganfod cysylltiadau rhwng cydrannau’r anymwybod ym mhrosesau meddyliol cleifion. Mae’r anymwybod yn cyfeirio at y rhan hwnnw o weithrediadau meddyliol y mae unigolyn yn gwneud eu hunain yn anymwybodol ohono. Mae’r anymwybod seicdreiddiol yn debyg i’r hyn rydym ni’n ei alw’n isymwybod, ond nid yr un peth yn union ydynt. Gyda seicdreiddiad, nid yw’r anymwybod yn cynnwys popeth nad yw’n ymwybod. Nid yw’n cynnwys elfennau megis sgiliau echddygol (motor skills) – dim ond yr hyn a othrymir o’r meddwl ymwybodol.

Annwfn: Cynhadledd Gymraeg yr Academi
20-21 Ionawr 2007
Llanteglos, ger Llanteg, Sir Benfro

Pris: £80 (ystafell rannu/ddwbl) - yn cynnwys pedwar pryd bwyd, te/coffi, mynediad i pob sesiwn a llety nos Sadwrn.
Mae ychydig o lefydd ar ôl. Er mwyn sicrhau eich lle, cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org

Ewch i www.academi.org i ddadlwytho pdf o amserlen lawn y gynhadledd